Rhybudd am 'gamarwain' rhieni gydag academïau pêl-droed
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn rhybuddio bod cwmnïau preifat sy'n galw eu hunain yn academïau yn camarwain rhieni sy'n chwilio am hyfforddiant pêl-droed i'w plant.
Mae pryderon am y nifer cynyddol o gyrff hyfforddi sydd ddim yn cyrraedd y safonau angenrheidiol a heb y trwyddedau perthnasol.
Daw wedi i honiadau ddod i'r amlwg bod cyn-chwaraewr Cymru, Natasha Harding wedi cymryd arian am hyfforddi plant er na wnaeth ei chwmni, Academi Tash Harding, gyflawni'r gwaith.
Mae Natasha Allen-Wyatt, Harding gynt, wedi cydnabod iddi ganslo "rhai sesiynau" am resymau y tu hwnt i'w rheolaeth, gan ymddiheuro am hynny.
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2024
Academïau pêl-droed gyda thrwydded yw'r llwybr i'r bobl ifanc mwyaf talentog i ddatblygu eu sgiliau, yn y gobaith o gyrraedd y gêm broffesiynol.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi sefydlu'r National Academi ar gyfer academïau cofrestredig yng Nghymru.
Y bwriad yw dod o hyd i'r chwaraewyr mwyaf talentog o fewn eu fframwaith proffesiynol i hyfforddi chwaraewyr y dyfodol.
Mae academïau wedi eu cysylltu â chlybiau pêl-droed, a'u hachredu mewn tri chategori: A, B ac C.
Yn ôl y gymdeithas, dim ond clybiau sydd wedi eu hachredu ddylai alw eu hunain yn academïau a bydd unrhyw un sy'n defnyddio logo neu frandio'r gymdeithas i hyrwyddo menter hyfforddi breifat yn cael cais i stopio.
Mae'r BBC yn deall i gyfreithwyr y gymdeithas ysgrifennu at Ms Allen-Wyatt yn gofyn iddi ddileu eu bathodyn o frandio cynnar ei menter hyfforddi.
Pan ddaeth y cyhuddiadau yn erbyn Ms Allen-Wyatt i'r amlwg gyntaf, fe wnaeth y BBC ei holi am hynny ond doedd dim ymateb.
Dywedodd Drew Sherman, pennaeth National Academi CBDC, bod "amwysedd" am y term 'academi'.
"Mae pobl yn gwerthu breuddwyd sy' ddim o reidrwydd wedi ei hachredu na'n gymwys i wneud y freuddwyd honno'n realiti," meddai.
"Mae unrhyw academi sy'n gysylltiedig â chlwb - y rhai sy'n ymwneud â ni - maen nhw'n mynd trwy broses drwyadl o sicrhau ansawdd.
"Mae'n rhaglen y gallwch chi ymddiried ynddi ac un ry'n ni'n ei chefnogi ac a fydd yn awyrgylch dda i'ch plentyn."
'Gofyn iddyn nhw beidio defnyddio'r logo'
Eglurodd bod yr holl weithwyr proffesiynol wedi cael cymhwyster gan CBDC a'r holl wirio angenrheidiol i weithio gyda phlant.
"Rhaid i'r holl bobl sy'n gweithio yn yr academïau clwb gael eu hachredu," meddai Mr Sherman.
Dywedodd bod unigolion sydd wedi bod trwy gyrsiau CBDC weithiau'n hysbysebu eu hunain fel rhai sy'n cael eu cefnogi gan y gymdeithas, ble nad dyna'r achos.
"Petaen ni'n ymwybodol ohonyn nhw fe fydden ni'n gofyn iddyn nhw beidio â defnyddio'r logo," meddai.
Mae pryderon bod ffin denau rhwng y rhaglenni hyfforddi sydd wedi eu cynllunio i fagu chwaraewyr y dyfodol a'r rhai sy'n cynnig rhywbeth sy'n fwy o hwyl ac i bawb.
Mae'r gymdeithas yn cydnabod bod lle i'r ddau beth, ond yn pwysleisio'r pwysigrwydd i rieni i fod yn ymwybodol o'r gwahaniaethau a gwneud eu hymchwil cyn cofrestru eu plant ar gyfer cwrs hyfforddi.
Yn ôl Neil Ward, prif weithredwr Clwb Pêl-droed Penybont sy'n rhedeg academi drwyddedig, mae "tuedd gynyddol" lle mae hyfforddwyr preifat yn galw eu hunain yn academïau heb fod â thrwydded.
Mae'n annog rhieni i ofyn mwy o gwestiynau am y bobl sy'n rhedeg y grwpiau - "pwy ydyn nhw ac ydyn nhw'n gymwys".
Mae'n awgrymu y dylai rhieni "ofyn am gymwysterau hyfforddi sylfaenol".
"Holwch faint o hyfforddiant ac amser cyswllt fydd chwaraewyr yn ei dderbyn, gweithdrefnau diogelwch, hyfforddiant cymorth cyntaf, adborth a chynlluniau datblygu unigol - mae canllawiau eitha' penodol.
"Be' sy'n bwysig yw bod rhieni'n sicrhau eu hunain am safon y ddarpariaeth trwy ymchwilio i bwy sy'n darparu'r hyfforddiant ac a ydyn nhw'n cael eu rheoleiddio gan y corff llywodraethu."
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd16 Mai 2023
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2024
Mae academïau trwyddedig yng Nghymru yn derbyn nawdd gan UEFA, trwy law CBDC.
Maen nhw'n codi ffi ar rieni - yn wahanol i academïau yn Lloegr sydd yn rhad ac am ddim.
"Yn Lloegr, mae'r gynghrair a'r clybiau yn derbyn mwy o arian felly dy'n nhw ddim yn codi ffi," meddai Mr Ward.
"Ond yng Nghymru ry'n ni'n codi ffi ry'n ni'n meddwl sy'n rhesymol i rieni o oddeutu £1.50 i £2.00 y sesiwn a dros 40 o wythnosau o hyfforddiant y flwyddyn.
"Mae'n fforddiadwy ac yn ein helpu ni i gyda rhai costau ac ry'n ni hefyd yn codi arian er mwyn cadw costau mor isel â phosib."
Adolygu'r drefn
Mae'r drefn yn wahanol i ferched a bechgyn ac yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd.
Mae'r corff llywodraethu yn rhedeg academi yng ngogledd a de Cymru, yn darparu hyfforddiant i'r chwaraewyr mwyaf talentog rhwng 11 ac 17.
Mae 'na hefyd gyfleoedd i ferched i gael hyfforddiant ychwanegol trwy ganolfan ddatblygu CBDC - rhaglen benodol o gemau cystadleuol i ferched yn erbyn bechgyn.
I Paul Kirton, rheolwr gyfarwyddwr Team Grassroots, sy'n cynrychioli'r gêm amatur, mae'r cynnydd mewn academïau honedig ar draws Cymru a Lloegr yn bryder.
"Mae 'na ffrwydrad wedi bod mewn darparwyr hyfforddiant pêl-droed sy'n defnyddio academi yn eu teitl ac mewn rhai achosion yn codi pedwar neu bum gwaith yn fwy na chlybiau llawr gwlad," meddai.
"Mae pobl yn meddwl eu bod nhw'n talu am rywbeth arbennig ond mewn gwirionedd, dyw e'n ddim gwahanol i glwb llawr gwlad."
Ychwanegodd y dylai'r enw academi ond gael ei ddefnyddio gan hyfforddwyr sydd wedi cael achrediad A, B neu C gan CBDC.
"Awgrym y gair yna yw ei fod e'n rhywbeth proffesiynol, tra gall y realiti fod yn rhywbeth hollol wahanol."
Mae CBDC yn dweud eu bod yn annog rhieni, gofalwyr a chlybiau pêl-droed i sicrhau bod darparwyr heb gefnogaeth corff llywodraethu cenedlaethol wedi dilyn camau diogelu cyn cofrestru eu plant am eu gwasanaeth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd29 Awst 2022