Cyngor i 800,000 o gartrefi a busnesau am hen domenni glo

Bu'n rhaid i nifer o bobl adael eu cartrefi yng Nghwmtyleri ym Mlaenau Gwent ar ôl i domen lo ddymchwel yn ystod Storm Bert yn 2024
- Cyhoeddwyd
Bydd tua 800,000 o gartrefi a busnesau yng Nghymru yn derbyn pamffled fel rhan o ymgyrch codi ymwybyddiaeth o ddiogelwch tomenni glo, yn dilyn dau dirlithriad sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf.
Bydd pobl yn cael gwybodaeth am leoliadau tomenni, y peryglon posib, a beth sy'n cael ei wneud i sicrhau eu bod yn ddiogel.
Ym mis Tachwedd 2024, bu'n rhaid i bobl adael tua 40 o gartrefi yng Nghwmtyleri ym Mlaenau Gwent, ar ôl tirlithriad o domen lo yn dilyn Storm Bert, gyda baw a malurion yn llifo drwy'r strydoedd.
Cafodd cyfraith newydd ei phasio yn y Senedd yn 2025 i wella diogelwch tomenni glo.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod eisoes wedi gwario £100m ar welliannau, ac y bydd corff newydd, 'Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir' yn goruchwylio'r gwaith o 2027.

Cafodd statws risg pob tomen lo yng Nghymru ei adolygu mewn ymateb i dirlithriad Pendyrus yn 2020
Mae'n bron i 60 mlynedd ers i 116 o blant a 28 o oedolion gael eu lladd pan ddisgynnodd tomen lo ar ysgol a thai yn Aberfan.
Am ddegawdau doedd dim llawer o wybodaeth am leoliadau a chyflwr hen domenni glo Cymru.
Ond ar ôl tirlithriad uwchben pentref Pendyrus yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 yn dilyn Storm Dennis, cafodd cofrestr o hen domenni glo ei llunio a chafodd deddfwriaeth ei chyflwyno i sicrhau eu bod yn cael eu monitro a'u diogelu.
Ym mis Mehefin 2025, fe addawodd Llywodraeth y DU £118m dros y tair blynedd nesaf i wneud domenni glo yn ddiogel.
Ond clywodd pwyllgor seneddol hefyd bod yr arian sydd wedi ei fuddsoddi hyd yma yn llawer llai na'r hyn sydd ei angen i fynd i'r afael â maint y broblem.
Mae pob tomen lo mewn categori yn seiledig ar y perygl tebygol i'r cyhoedd.
Mae categori D ac C yn "risg uwch" ac angen cael eu harchwilio unwaith neu ddwywaith y flwyddyn, tra bod categori A a B yn cael eu gweld fel bod yn risg "isel" neu "isel iawn" i'r cyhoedd.
Cyngor Rhondda Cynon Taf ydy'r awdurdod lleol sydd â'r nifer uchaf o domenni glo categori D ac C ynghyd â Merthyr Tudful a Chaerffili, sydd i gyd â thros 50 o domenni gyda statws "perygl uwch".
- Cyhoeddwyd22 Ionawr
- Cyhoeddwyd20 Mawrth
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2021
Mae ymgyrchwyr sydd wedi bod yn galw am glirio hen domenni glo wedi croesawu'r gyfraith newydd, ond yn bryderus nad yw'n mynd yn ddigon pell.
Dywedodd Phil Thomas o ymgyrch Clirio Tomenni Glo De Cymru:
"Y cyfaddawd mawr rwy'n ei weld yn y gyfraith ydy y bydd y llywodraeth yn buddsoddi arian i wella tir preifat - mae dros 60% o'r tomenni risg uchel ar dir preifat - heb ofyn am unrhyw beth yn gyfnewid, er enghraifft parc gwledig neu dir i'r cyhoedd.
"Yn bersonol rwy'n credu bod hynny yn gamgymeriad, ond dyna sut y maen nhw wedi ei wneud o.
"Mae'r amser sydd wedi ei roi i berchnogion tomenni i wneud gwelliannau hefyd i'w weld yn hael, ond mae gorfodaeth yn well nag argymhellion i berchnogion, sef beth sydd ganddon ni nawr."
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros newid hinsawdd, Huw Irranca-Davies:
"Mae'r diweddaru cyson o'r wybodaeth genedlaethol sydd ar gael i'r cyhoedd yn dangos ei ymrwymiad diwyro tuag at ddiogelwch tomenni glo drwy Gymru, a'n hymrwymiad llwyr i amddiffyn pobl."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.