Maxine Hughes: 'Nôl yng Nghymru wedi misoedd heriol canser'

Bydd Maxine Hughes yn annerch yr Eisteddfod Genedlaethol fel Arweinydd Cymru a'r Byd
- Cyhoeddwyd
Mae Maxine Hughes yn enw cyfarwydd yn Wrecsam yn sgil ei gwaith fel cyfieithydd i sêr Hollywood a pherchnogion y clwb pêl-droed - Ryan Reynolds a Rob McElhenney.
Mae hi hefyd yn newyddiadurwr profiadol sydd wedi gohebu ar nifer o straeon mawr, ac yn llais cyfarwydd ar y cyfryngau Cymraeg ar faterion sy'n ymwneud â'r Unol Daleithiau.
Mae hi'n dweud bod y misoedd diwethaf wedi bod yn anodd iddi, yn dilyn triniaeth canser.
O ganlyniad dyma'r tro cyntaf mewn naw mis iddi ddod i Gymru.
"Mae'r chwe mis diwethaf wedi bod yn her," meddai.
"Ar ôl cael diagnosis o ganser y fron ymosodol ym mis Ionawr rydw i wedi bod yn derbyn cemotherapi bob wythnos.
"Dwi'n 'neud y daith hon cyn dychwelyd i America am masectomi dwbl."
Maxine Hughes fu'n cofnodi ei thaith yn ôl i Gymru ar ôl misoedd heriol yn brwydro canser
Nos Sul yn ystod y Gymanfa Ganu bydd Maxine yn annerch y gynulleidfa gan mai hi eleni yw Arweinydd Cymru a'r Byd, a bydd Steffan Lloyd Owen yn canu Unwaith eto yng Nghymru Annwyl.
Yn wreiddiol o Gonwy, mynychodd Maxine Ysgol Bryn Elian, Hen Golwyn cyn gadael Cymru i astudio yn Ffrainc ac yna'r Unol Daleithiau.
Mae hi wedi cynrychioli Cymru mewn jiwdo ac acrobateg, ond ysgoloriaeth bêl-droed aeth â hi i America.
"Roeddwn i'n adrodd pan oeddwn i'n ysgol Bodnant ac roedd 'na lot o ganu yn Ysgol Bryn Elian.
"Ro'n i'n cymryd rhan mewn cystadlaethau gymnasteg ac ro'n i'n mwynhau dawnsio hefyd."
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Dywedodd bod cael ei hurddo yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni a'i dewis yn Arweinydd Cymru a'r Byd yn fraint arbennig gan bod "eisteddfodau yn rhan bwysig o'm plentyndod".
"Efallai mai'r peth annisgwyl ydy mai mam ddi-Gymraeg oedd wedi fy annog i a fy chwiorydd i siarad Cymraeg," meddai.
"Addysg cyfrwng Saesneg ges i rhan fwyaf yng Nghonwy, ond Cymraeg oedd fy hoff bwnc.
"Roeddwn i wrth fy modd yn cystadlu yn yr adrodd mewn eisteddfodau ac yn astudio llenyddiaeth a barddoniaeth Gymraeg.
"Mam oedd wedi tanio'r angerdd am yr iaith tu fewn i fi, ac mae dal yno - hyd yn oed yn America."
Wedi iddi gael gwybod y byddai'n cael ei hurddo i'r Orsedd, dywedodd Maxine y "byddai 'nhad mor falch i glywed y newyddion"
Dydd Gwener bydd Maxine yn cael ei hurddo i'r wisg las.
Wrth glywed y newyddion dywedodd ei bod yn "anrhydedd enfawr" cael ei chydnabod gan yr Orsedd.
Mae ei thad, a fu farw ym mis Rhagfyr, yn dod o Wrecsam.
"Dwi'n meddwl y buasai ef mor falch a hapus i glywed y newyddion," meddai, "a dwi'n edrych ymlaen i ddod â fy nheulu o America draw i Wrecsam".
- Cyhoeddwyd4 Awst 2024
- Cyhoeddwyd2 Mehefin
- Cyhoeddwyd2 Mehefin
Arweinydd y Gymanfa Ganu eleni fydd Ann Atkinson, a dderbyniodd anrhydedd MBE yn gynharach eleni am ei chyfraniad i'r byd cerddorol yng Nghymru.
Yn ystod y gymanfa bydd perfformiad gan Gôr y Gymanfa a bydd gwobr o £200 yn cael ei chyflwyno i enillydd yr emyn-dôn fuddugol - gwobr sy'n cael ei rhoi eleni gan chwiorydd ac aelodau Capel Penuel, Rhosllannerchrugog er cof am ddau gyn-organydd y capel, sef John Tudor Davies a David Parry.
Yn y pafiliwn brynhawn Sul bydd Medal y diweddar Barchedig R Alun Evans yn cael ei chyflwyno am y tro cyntaf - a hynny i Wenna Bevan Jones.
Mae'r fedal yn cael ei chyflwyno i gymwynaswr bro sydd wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol i gefnogi, i gynnal ac i gyfoethogi diwylliant eu hardal leol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.