Blythyn yn gwrthod ateb cwestiynau am ryddhau negeseuon i'r wasg

Hannah BlythynFfynhonnell y llun, Senedd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Hannah Blythyn dro ar ôl tro nad oedd yn gallu ateb y cwestiwn

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-weinidog Llywodraeth Cymru wedi gwrthod dro ar ôl tro i ateb cwestiynau ynghylch a ddaeth negeseuon a gafodd eu rhyddhau i'r cyfryngau o'i ffôn hi, cyn iddi gael ei diswyddo.

Daeth i'r amlwg fis Mai diwethaf fod Vaughan Gething wedi dweud wrth weinidogion eraill mewn grŵp ar-lein yn ystod cyfnod Covid ei fod yn dileu negeseuon.

Fe wnaeth Mr Gething amddiffyn ei benderfyniad i ddiswyddo Hannah Blythyn ar ôl iddi wadu'n gryf yr honiad ei bod wedi rhyddhau gwybodaeth i'r cyfryngau.

Ond mewn cyfweliad gyda phodlediad Walescast BBC Cymru, gwrthododd Ms Blythyn ddweud a oedd y negeseuon yn wreiddiol wedi dod o'i ffôn hi ai peidio, fel yr oedd Mr Gething wedi honni.

Dywedodd Ms Blythyn, sy'n gadeirydd pwyllgor safonau'r Senedd ar hyn o bryd, nad oedd yn gallu ateb y cwestiwn oherwydd nad oedd ymchwiliad wedi ei gynnal.

Yn dilyn cyfweliad gyda Walescast am waith ei phwyllgor ar adalw gwleidyddion sy'n camymddwyn, gofynnwyd i Ms Blythyn bum gwaith a oedd y negeseuon wedi dod o'i ffôn.

Dywedodd yr AS Delyn dro ar ôl tro nad oedd yn gallu ateb y cwestiwn.

"Rwyf wedi bod yn glir fy mod wedi dweud popeth yr wyf am ei ddweud amdano ar lawr siambr y Senedd," meddai.

Dylai ymchwiliad fod wedi ei gynnal i'r mater, meddai.

"Nid yw'r cwestiynau hyn yn berthnasol i mi. Ni allaf eu hateb. Doeddwn i byth yn destun ymchwiliad," ychwanegodd.

Heb gael 'cwrteisi ymchwiliad'

Pan ofynnwyd iddi eto, dywedodd: "Ni allaf ateb y cwestiwn hwnnw oherwydd nid oedd ymchwiliad ar y pryd."

Dywedodd ei fod wedi cael "effaith andwyol anhygoel ar fy iechyd" a'i bod yn dymuno "bod pethau wedi'u trin yn well".

Y trydydd tro, dywedodd nad oedd "dim tystiolaeth bendant i ddweud hynny".

Dywedwyd wrthi mai'r unig enw nad oedd i'w weld ar y sgrin oedd ei henw hi.

"Ni allaf ateb y cwestiynau hynny oherwydd ni chefais gwrteisi ymchwiliad priodol," meddai.

Pan ofynnwyd iddi am y tro olaf, dywedodd yr AS na allai "ychwanegu dim byd arall at yr hyn yr wyf eisoes wedi'i ddweud yn siambr y Senedd".

Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Senedd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y prif weinidog ar y pryd, Vaughan Gething, nad oedd ganddo "ddim dewis arall ond gofyn i Hannah Blythyn adael y llywodraeth" ar ôl adolygiad o'r "dystiolaeth sydd ar gael i mi"

Roedd Mr Gething wedi dweud bod y negeseuon yn amlwg wedi dod o ffôn y gweinidog a'i fod ef wedi rhoi "buddiannau'r wlad" o flaen rhai ei hun wrth wneud y penderfyniad i'w diswyddo.

Roedd nifer o ffynonellau wedi dweud wrth BBC Cymru bod ffôn Ms Blythyn wedi'i adnabod oherwydd bod ei manylion yn absennol o'r rhestr o gyfranogwyr ar y llun.

Mewn datganiad personol yn y Senedd y llynedd, gwadodd Ms Blythyn iddi erioed ryddhau gwybodaeth i'r cyfryngau.

Roedd Ms Blythyn wedi bod yn weinidog partneriaeth gymdeithasol.