Cipolwg prin y tu mewn i dwnnel Hafren

Mae’n dwnnel hanesyddol sydd fel arfer yn cludo 200 o drenau y dydd rhwng de Cymru a Lloegr – ond am y tro, mae’n ddistaw.

Ar hyn o bryd mae gwaith atgyweirio yn golygu bod Twnnel Hafren ar gau’n llwyr am bythefnos, gyda disgwyl i’r gwaith orffen ar 18 Gorffennaf.

Mae’n golygu bod trenau’n cael eu dargyfeirio, ond yn ôl Network Rail dyma’r adeg orau i wneud y gwaith tra’n tarfu cyn lleied â phosib ar deithwyr.

Erbyn iddo ailagor, bydd trac newydd 7km o hyd wedi ei osod i gludo teithwyr i Gymru.

Gan fod y twnnel o dan Afon Hafren – ac wedi ei adeiladu bron i 140 mlynedd yn ôl yn Oes Fictoria – mae’r amodau y tu mewn yn wlyb a llaith.

Felly mae angen pwmpio dŵr allan yn gyson, yn ogystal ag adnewyddu’r trac yn amlach nag y byddai angen ar reilffordd arferol.

Ein gohebydd Iolo Cheung gafodd wahoddiad i gael cip ar y twnnel a'r gwaith sy’n cael ei wneud.