Atal y Fedal Ddrama: 'Pawb eisiau gwybod pam'
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi canslo'r Fedal Ddrama eleni.
Daeth y penderfyniad ar ôl y broses o feirniadu'r gystadleuaeth, medd y brifwyl mewn datganiad.
Bydd adolygiad o gystadlaethau cyfansoddi'r Eisteddfod yn sgil y penderfyniad.
Y Fedal Ddrama oedd i fod yn brif seremoni'r dydd yn y Pafiliwn ddydd Iau.
Ar y Maes ym Mhontypridd roedd pobl yn holi pam, gyda'r Eisteddfod heb roi manylion pellach am y rheswm dros ganslo'r fedal.