Edwards: 'Yr Orsedd yn ddarostyngedig i Lys yr Eisteddfod'
Mae Gorsedd Cymru wedi cadarnhau y bydd aelodaeth Huw Edwards nawr yn cael ei drafod gan Lys yr Eisteddfod.
Plediodd cyn-brif gyflwynydd newyddion y BBC yn euog i dri chyhuddiad o greu delweddau anweddus o blant.
Ddechrau'r wythnos, fe gadarnhaodd Bwrdd Gorsedd Cymru fod proses o ystyried aelodaeth Edwards wedi dechrau yn dilyn cyfarfod ar faes yr Eisteddfod.
Yn dilyn cyfarfod blynyddol Gorsedd Cymru ar y Maes fore Iau, dywedodd y Cofiadur, Christine James mewn datganiad: "Mewn materion fel hyn mae’r Orsedd yn ddarostyngedig i Lys yr Eisteddfod.
"Mae gan y llys broses deg a chytbwys sydd wedi cychwyn ac er tegwch i bawb a rhag cam arwain neb nid yw’n briodol i wneud sylw pellach ar hyn o bryd."
Ychwanegodd: "A byddwn yn ddiolchgar pe bai chi ddim yn cam ddyfynnu nac yn camddehongli'r sylwadau hyn."