'Hollol wefreiddiol' ennill Coron Eisteddfod leol

Dywedodd enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ei fod yn "brofiad hollol wefreiddiol" dod i'r brig yn ei eisteddfod leol.

Daeth Gwynfor Dafydd o Donyrefail i’r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 33 o geisiadau.

"O'dd rhaid i fi gystadlu eleni," meddai wedi'r seremoni, "am ei bod hi'n 'Steddfod leol."

Cafodd ei wobrwyo ar y maes ym Mhontypridd brynhawn Llun, ac fe wnaeth ei fam Helen Prosser - Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod eleni - ei gofleidio ar y llwyfan.

Disgrifiodd y gerdd fel "llythyr garu i'r Cwm ac i tad-cu".