Ennill y Fedal Ryddiaith yn 'brofiad gwefreiddiol'
Dywedodd Eurgain Haf ei bod hi'n "brofiad gwefreiddiol, arallfydol" ennill y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024.
Daw yn wreiddiol o Benisarwaun yng Ngwynedd, ond erbyn hyn mae hi wedi ymgartrefu ym mro'r Eisteddfod ym Mhontypridd.
Daeth Eurgain, dan y ffugenw Manaia, i'r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 14 o ymgeiswyr.
Yn siarad gyda'n gohebydd Alun Thomas wedi'r seremoni, dywedodd hefyd ei bod yn "braf iawn" clywed barn y beirniaid, a bod cynifer wedi cystadlu am y wobr eleni.