'Colli mas ar bethe neis i'r teulu wedi anaf rygbi'

Mae chwaraewr rygbi a gafodd sawl anaf yn ystod ei yrfa yn annog eraill o fewn y gamp i sicrhau fod ganddyn nhw yswiriant.

Er bod gan Rhodri Bwye yswiriant ar gyfer anafiadau, nid oedd ganddo yswiriant i warchod ei incwm tra'r oedd yn gwella o'i anafiadau.

Mae'r tad i ddau o Faesteg ym Mhen-y-bont ar Ogwr o'r farn mai un ffactor sy'n atal cynifer o chwaraewyr rhag cael yswiriant yw'r gost.