'Torcalon' cael gwared ar anifail er mwyn cael rhywle i fyw

Mae pobl sy'n berchen ar anifeiliaid anwes yn ei gweld hi'n anodd cael rhywle i fyw, gan ddweud fod nifer o landlordiaid yn gwrthod cynnig lle iddyn nhw.

Wrth siarad â'r BBC, fe rannodd James Strauch o'r Rhyl ei brofiad anodd o chwilio am le i fyw gyda'i gi, Bruno.

Wedi wyth mis o chwilio, dywedodd Mr Strauch ei fod wedi gorfod dewis rhwng cael gwared ar Bruno neu bod yn "ddigartref gyda chi".

Dywedodd ei fod wedi cael rhywle i fyw o fewn wythnos ar ôl iddo beidio nodi ar ei gais fod ganddo gi.

Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Iau, dywedodd Billie-Jade Thomas o'r RSPCA ei fod yn "cymryd yn hirach os ydych chi efo anifail" i gael tŷ.

Dywedodd wrth bobl i gymryd eu hamser i ddod o hyd i lety am fod cymaint o fuddion o fyw gydag anifail anwes.

"Maen nhw'n rhan o deuluoedd pobl, maen nhw'n ffrind i bobl" meddai ac ychwanegodd ei bod yn torri ei chalon o glywed fod yn rhaid i bobl gael gwared ar anifeiliaid er mwyn cael lle i fyw.