Plant Mewn Angen: 'Prosiectau sy'n gwneud gwahaniaeth'
Mae diwrnod mawr ymgyrch flynyddol y BBC, Plant Mewn Angen, wedi cyrraedd ac fe fydd y rhaglen deledu arferol nos Wener yn benllanw llu o weithgareddau codi arian ar draws y DU.
Fe fydd taith cyflwynydd BBC Radio Cymru, Aled Hughes er budd yr elusen yn dod i ben yn Aberdaron yn ystod y dydd wedi iddo gerdded ar hyd Llwybr y Pererinion o Dreffynnon yn Sir y Fflint i Ben Llŷn.
Wrth lawnsio ymgyrch eleni, fe rybuddiodd trefnwyr bod wir angen codi arian, gan fod yr elusen ond mewn sefyllfa i helpu un o bob wyth o'r mudiadau a grwpiau cymunedol sy'n ceisio am gymorth.
Wrth gael ei holi ar raglen Dros Frecwast ddydd Gwener, fe bwysleisiodd pennaeth Plant Mewn Angen yng Nghymru, James Bird bwysigrwydd dewis y prosiectau sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf.