'Nes i ddeffro fy ngŵr a dweud bod ni wedi ennill y loteri'

Newidiodd bywyd Ceri Roscoe-Roberts a'i theulu dros nos pan enillodd hi £1m yn raffl yr Euromillions y llynedd.

Dywedodd y fam i bump o blant o Gaernarfon ei bod hi a'i gŵr yn eu dagrau pan gafon nhw'r newyddion da - ond na fydd rhai pethau'n newid ers ennill y loteri.

"Dwi'n dal yn cerdded rownd y siop a d'eud 'mae pris hwnna'n ofnadwy, dwi'n gwybod bod y pris yn rhatach lawr lôn'," meddai.

Mae Ms Roscoe-Roberts ymysg 400 o Gymry sydd wedi troi'n filiwnyddion ers cychwyn y loteri genedlaethol 30 o flynyddoedd yn ôl.