'Angen atal risgiau sy'n ymwneud â gwydr yn ein clybiau'

Mae merch o Gaerdydd a gafodd anafiadau i'w phen wedi i rywun daflu gwydr tuag ati yn galw ar glybiau a thafarndai Cymru i ddefnyddio gwydrau plastig.

Dywedodd Emily Browne bod yr hyn a ddigwyddodd iddi yn Lloegr wrth iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 18 yn 2022 wedi newid ei bywyd.

Mae hi'n byw gyda PTSD, iselder a theimladau o orbryder yn ddyddiol, ac yn cael sesiynau therapi ar ôl bod ar restr aros am flwyddyn a hanner.

Mae Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd wedi gwahardd gwydr ers degawd a dywed Emily y byddai'r effaith ar ddiogelwch cyhoeddus yn "anferth" pe byddai mwy yn eu dilyn.

"Roeddwn i wedi mynd i Fryste i ddathlu fy mhen-blwydd yn 2020," meddai, "a thra'n bod ni'n yfed yr ail ddiod dyma fi'n clywed sŵn gwydr a theimlo cefn fy mhen yn wlyb a sylweddoli mai gwaed o'dd e.

"Roedd rhywun wedi taflu gwydr o'r ail lawr ac fe darodd e fy mhen i.

"Anghofia'i fyth y profiad o gael y gwydr allan o'm mhen – roedd e mor boenus."