'Pleser a braint gweld cleifion yn mwynhau garddio'
Mae 58 o unigolion o Gymry wedi cael eu cynnwys ar restr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin.
Yn eu plith mae sawl enw cyfarwydd, gan gynnwyr cyn asgellwr Cymru a'r Llewod, Gerald Davies, sy'n cael ei urddo'n farchog.
Ond mae sawl person sy'n gwneud cyfraniadau arbennig ar lawr gwlad hefyd yn cael cydnabyddiaeth.
Un ohonyn nhw yw Trystan Lewis o Gaernarfon.
Fel rhan o'i waith i leihau ôl troed carbon safleoedd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn y gogledd, mae wedi datbygu project i adfywio gardd hynafol yn Ysbyty Bryn y Neuadd, yn Llanfairfechan, yn Sir Conwy.
Mae cleifion yn rhan o'r gwaith ac mae treulio amser yn yr awyr iach yn help i wella iechyd a lles y cyfranwyr.