Pwllheli: Dynes gyntaf i lywio cerbyd lansio RNLI
Lindsay Rees yw'r fenyw gyntaf yn hanes gorsaf bad achub Pwllheli i lywio'r cerbyd lansio ers sefydlu'r gwasanaeth yno 133 o flynyddoedd yn ôl.
Ymunodd Ms Rees ag RNLI Pwllheli yn 2022 a dywed bod gwirfoddoli i’r RNLI yn rhywbeth "rydw i wedi bod eisiau ei wneud erioed".
Dywedodd nad oedd hi'n gwybod mai hi oedd y ddynes gyntaf i wneud hyn.
Ei gobaith yw dylanwadu ar fwy o fenywod i ymuno â'r RNLI.