Cymdogion 78 o flynyddoedd 'fel dwy chwaer'

Mae Dorian Reeve a Margaret 'Mags' Hughes o Fynydd-y-garreg, Sir Gâr, wedi bod yn gymdogion ers i Dorian fod yn chwech wythnos oed.

Yn ffrindiau agos ers 78 o flynyddoedd, mae'r ddwy yn cofio'r adeg pan syrthiodd Dorian allan o'i phram a glanio mewn clawdd pan oedd hi'n fabi, wrth i Mags ei gwarchod hi.

Roedd Mags, sydd bellach yn 88 oed, wedi bod yn rasio gyda'r pram.

Mae Dorian, sy'n 78 oed, yn dweud bod y ddwy wedi dod yn ffrindiau mawr, yn enwedig ar ôl iddi hi gael plant yn ei hugeiniau cynnar.

Dywedodd: "Erbyn o'n i'n ugain, oedd digon 'da ni nawr yn gyffredin achos o'n i'n mynd mas am wâc gyda'r pushchairs a'r prams a pethe, a ni jyst wedi bod 'na.

"Er oedd hi ddim yn byw yn yr un tŷ â fi, man a man bod hi wedi.

"Fi'n credu bod y ffaith bod perthynas gyda ni am 78 o flynydde, wedi byw yn agos, ddim dim ond bod ni'n nabod ein gilydd, ond wedi byw bron fel dwy chwaer, yn unigryw iawn."

Ychwanegodd bod eu cyfeillgarwch wedi datblygu gan fod nifer o gymdogion yn treulio llawer o amser gyda'i gilydd bryd hynny.

"'Se chi'n symud nawr a mynd i stryd neu stâd neu rywbeth fel'na, jiw, bydde chi ddim yn 'nabod pobl rownd chi."