‘Ffraeo na welwyd am flynyddoedd’ yn y Cynulliad

Mae ACau wedi pleidleisio yn erbyn cynnig oedd yn galw am orfodi Llywodraeth Cymru i gyhoeddi adroddiad ar ryddhau gwybodaeth.

Ddydd Mercher fe wnaeth y Ceidwadwyr gyflwyno cynnig yn y Senedd yn mynnu bod adroddiad i honiadau bod gwybodaeth am ddiswyddiad Carl Sargeant wedi ei ryddhau i'r cyfryngau yn cael ei gyhoeddi.

Ond cafodd y cynnig ei wrthod o 29 pleidlais i 26, gydag un bleidlais wedi'i hymatal.

Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, Arwyn Jones, sy'n asesu wythnos o "ffraeo na welwyd am flynyddoedd" yn y Cynulliad.