Bryn Terfel i ddathlu 'ei arwr' yn y cyngerdd agoriadol
Bydd Syr Bryn Terfel yn camu i lwyfan pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni i ddathlu ei "arwr" Paul Robeson.
Union 60 mlynedd ers ymweliad Robeson a'r brifwyl yng Nglyn Ebwy, bydd Syr Bryn yn serennu yn noson agoriadol Caerdydd.
Athro cerddoriaeth o'r enw Mr Jones ydy Syr Bryn mewn sioe fydd yn cael ei ailadrodd nos Sadwrn, y tro cyntaf i'r Eisteddfod Genedlaethol gynnal cyngerdd agoriadol ddwywaith.
Hanes sydd werth ei ail-adrodd, yn ôl Syr Bryn Terfel: "Os oes yna stori i'w ddweud, mae stori Paul Robeson yn amryliw.
"Boed yn ganwr, boed yn actor, boed yn rhywun oedd ar ffilmiau, neu boed yn rhywun oedd yn rhoi ei ddwylo, ei adenydd, o gwmpas y rhai sydd yn cael eu sathru."