Bellamy a Hartson yn datgan diddordeb yn swydd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Hartson a BellamyFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae dau o gyn-ymosodwyr Cymru wedi rhoi eu henwau ymlaen i olynu Chris Coleman fel rheolwr y tîm cenedlaethol.

Roedd Craig Bellamy a John Hartson yn siarad gyda'r wasg ddydd Llun.

Ar Sky Sports, dywedodd Bellamy y byddai ganddo "ddiddordeb yn y swydd am weddill fy mywyd".

Mewn sgwrs â'r BBC, fe ddywedodd Hartson y byddai'n "cerdded ar wydr" i gael y swydd, ond nad oedd e'n disgwyl ei chael.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Hartson a Bellamy yn cyd-chwarae i'r tîm cenedlaethol am flynyddoedd

Mae Bellamy wedi bod yn gweithio yn datblygu chwaraewyr gyda Chaerdydd yn ddiweddar, yn dilyn gyrfa lle chwaraeodd 78 o weithiau dros ei wlad, gan sgorio 19 gôl.

"Dwi'n angerddol am Gymru," meddai. "Dyna'r uchafbwynt i fi ac yn sicr bydd gen i wastad ddiddordeb yn y swydd 'na."

Ychwanegodd: "Dwi wedi gweithio gyda charfanau ieuenctid Cymru, felly mae gen i ddealltwriaeth dda o'r system sydd mewn lle i gynhyrchu chwaraewyr ifanc."

Dywedodd hefyd ei fod wedi chwarae gyda nifer o chwaraewyr y tîm cyntaf cyn iddo ymddeol o bêl-droed rhyngwladol yn 2013.

Pulis 'yw'r dyn delfrydol'

Roedd Hartson yn arwain yr ymosod gyda Bellamy i Gymru am flynyddoedd, ac fe gafodd gyfweliad am swydd y rheolwr cyn penodiad Gary Speed yn 2010. Bu'n gweithio hefyd fel hyfforddwr gyda thîm rheoli Chris Coleman am gyfnod.

Mae'n dweud ei fod yn "gwybod yn union beth sy'n digwydd" o fewn carfan Cymru ac yn "adnabod y system, adnabod yr athroniaeth a sut mae'r bechgyn yn hoffi gweithio" gan ei fod wedi bod yno.

Ond mae'n cyfaddef nad ydy e'n disgwyl cael cynnig y swydd gan ei fod yn credu y bydd y Gymdeithas Bêl-droed eisiau rheolwr "gydag ychydig mwy o brofiad ar hyn o bryd".

Dywedodd mai Tony Pulis - gafodd ei ddiswyddo gan West Bromwich Albion ddydd Llun - yw'r "dyn delfrydol" i olynu Coleman.

"Mae'n dibynnu os ydy Tony eisiau cymryd swydd Cymru nawr," meddai, gan ychwanegu ei bod hi'n bosib bod cyn-reolwr Stoke eisiau parhau i reoli yn Uwch Gynghrair Lloegr.

'Rheolwr neu ddim byd'

Fe ddywedodd Hartson hefyd y byddai Bellamy'n medru gweithio fel is-reolwr i Pulis - ond dywedodd na fyddai e, yn bersonol, eisiau bod yn ddirprwy.

"Dwi wedi gweithio mewn swydd is-reolwr a doeddwn i ddim yn ei mwynhau felly dwi eisiau swydd rheolwr neu ddim byd," meddai, gan gyfeirio at ei brofiad yn nhîm hyfforddi Coleman.

Dywedodd nad oedd yn teimlo ei fod yn medru lleisio'i farn a rhoi ei "stamp" mewn tîm hyfforddi oedd yn cynnwys Kit Symons ac Osian Roberts.