Disgwyl canlyniadau gwahanol Cymraeg Ail Iaith

Bydd miloedd o ddisgyblion yn derbyn eu canlyniadau TGAU yn ddiweddarach.

Mae Cymraeg Ail Iaith yn un o'r cymwysterau newydd sydd wedi eu cyflwyno eleni.

Oherwydd newidiadau yn y pwnc mae Emyr George, cyfarwyddwr polisi a diwygio cymwysterau gyda Chymwysterau Cymru, yn rhagweld y gallai'r canlyniadau fod yn wahanol eleni.