Blwyddyn o golli a chreu swyddi yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Roedd yna sawl ergyd i economi Cymru yn ystod 2019 - ac eto sawl cyhoeddiad mwy calonogol wrth edrych ymlaen at y 12 mis nesaf.
Er gwaethaf gostyngiad yn lefelau cyflogaeth eleni, mae cyfradd y bobl mewn gwaith yn parhau'n uchel.
Dyma rai o ddatblygiadau mwyaf arwyddocaol y 12 mis diwethaf.
Busnesau a ffatrïoedd sydd wedi neu ar fin cau
Bydd 1,700 o swyddi'n diflannu pan fydd cwmni Ford yn cau ei ffatri ym Mhen-y-bont ym Medi 2020.
Mynnodd y cwmni mai newid yn y galw gan gwsmeriaid a chostau anfanteisiol oedd yn gyfrifol am y penderfyniad, nid Brexit.
Ym mis Hydref, cyhoeddodd cwmni Hilex fwriad i gau ei safle ym Maglan yn 2021, gan dorri tua 125 o swyddi a symud gwaith i Hwngari.
Mae'r cwmni'n cynhyrchu cydrannau drws a ffenestr a cheblau ar gyfer cerbydau i gynhyrchwyr ceir fel Honda, Audi a BMW.
Un lle sydd eisoes wedi cau yw ffatri geir Schaeffler yn Llanelli, oedd yn cyflogi 220 o weithwyr.
Dywed y cwmni bod "mwyafrif" y staff oedd yn dymuno parhau yn y diwydiant wedi cael gwaith gyda chyflogwyr eraill.
Ym mis Ebrill, daeth cwymp y cwmni adeiladu Dawnus, oedd â phencadlys yn Abertawe a dyledion o £50m.
Yn ôl y gweinyddwyr, Grant Thornton, mae'n "annhebygol iawn" y bydd nifer o'r credydwyr yn cael eu had-dalu.
Mae Llywodraeth Cymru'n gobeithio hawlio rhywfaint o'u harian yn ôl ar ôl rhoi benthyciad gwarantedig o £1.5m.
Roedd tua 700 yn gweithio i'r cwmni neu i is-gontractwyr.
Aeth y cwmni dodrefn Triumph i'r wal ym mis Hydref wedi "cwymp trychinebus mewn archebion" a arweiniodd at golli 252 o swyddi.
Roedd y cwmni teuluol â safleoedd ym Merthyr Tudful a Dowlais, a dywedodd y prif weithredwr eu bod "yn bryderus iawn am les yr holl weithwyr a'u teuluoedd".
Roedd yna fygythiad i 50 o swyddi ym Mhort Talbot ym mis Mehefin pan aeth y cwmni adeiladu Jistcourt i ddwylo'r gweinyddwyr,
Parhau mae ansicrwydd ynghylch dyfodol 380 o swyddi gwaith dur trydanol Orb yng Nghasnewydd wedi i gwmni Tata ddod â'r gwaith cynhyrchu i ben a cheisio sicrhau prynwr newydd.
Datblygiadau mwy calonogol
Ym mis Medi, cyhoeddodd Ineos mai ym Mhen-y-bont y bydd eu cerbyd 4x4 newydd yn cael ei gynhyrchu o 2021 ymlaen.
Mae disgwyl y bydd tua 200 yn cael eu cyflogi yn y lle cyntaf, gyda'r nifer yn codi i 500 yn y tymor hir.
Mae'r cwmni wedi cael cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fel rhan o gystadleuaeth i ddatblygu technolegau newydd.
Ym Mehefin, cyhoeddodd y cynhyrchydd batris aildrydanadwy OXIS Energy fwriad i godi ffatri ym Mhort Talbot a chreu cannoedd o swyddi o fewn y 10 mlynedd nesaf.
Bydd y safle'n cynhyrchu cydrannau batris ar gyfer bysiau, tryciau, dronau a llongau tanfor, fydd yn cael eu hallforio i safle ym Mrasil ar gyfer cwblhau'r broses gynhyrchu.
Cymro, Huw Hampson-Jones, yw perchennog y cwmni, sydd wedi derbyn buddsoddiad o £3.2m gan Fanc Datblygu Cymru ac sy'n gobeithio cyflogi 50 ym Mhort Talbot cyn diwedd 2020.
Wedi gwaith uwchraddio a ddechreuodd yn 2017, agorodd Aston Martin ei ffatri yn Sain Tathan yn swyddogol a lansio'n car cyntaf i gael ei gynhyrchu yng Nghymru - y DBX.
Eisoes mae 300 o staff yno ond bydd hynny'n codi i 750 yn y pen draw.
Mae'n fwriad i ganoli gwaith cynhyrchu ceir trydanol y cwmni yn Sain Tathan, er bydd y cerbydau Lagonda a RapidE newydd yn cael eu cynhyrchu ar raddfa lai o lawer.
Ym mis Ionawr, cyhoeddodd banc digidol o Lundain, Monzo ei fod am greu dros 300 o swyddi yng Nghaerdydd dros bedair blynedd.
Cafodd y cwmni £950,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru er mwyn agor canolfan gweithrediadau cwsmer newydd.