Coronafeirws: Prifardd yn penderfynu cadw'i blant o'r ysgol

Mae nifer o ysgolion yng Nghymru wedi cau yn rhannol neu yn llwyr gan fod cymaint o staff ddim yn gallu mynd i'r gwaith yn sgil yr ymdrech i atal ymlediad haint coronafeirws.

Mae hynny er gwaethaf y cyngor swyddogol gan lywodraethau Cymru a'r DU i barhau ar agor, ac mae'r undeb addysg, NEU wedi galw am gau pob ysgol yng Nghymru a Lloegr.

Mae'r bardd Mei Mac a'i wraig, Karen, wedi penderfynu cadw eu plant o'r ysgol a'u dysgu o'u cartref yng Nghlynnog Fawr yn sgil yr argyfwng.