Oriel: lidos coll Cymru
- Cyhoeddwyd
Gair Eidaleg am draeth ydi lido, a'r pyllau nofio awyr agored o'r un enw oedd y peth agosaf oedd gan nifer o gymunedau yng Nghymru i nofio ym Môr y Canoldir ar un cyfnod.
Ar un pwynt roedd 57 lido ar draws y wlad ac ym misoedd y gwanwyn a'r haf byddai plant, teuluoedd a nofwyr o bob oed yn mynd yno yn eu heidiau.
I blant y 60au a'r 70au bydd yr atgofion o neidio mewn i'r dŵr oer yn ystod gwyliau ysgol yn dal yn fyw. Bydd rhain hefyd yn cofio'r pyllau yn cael eu dymchwel neu eu gadael i eistedd yno'n sych wrth i boblogrwydd gwyliau tramor a phyllau dan do gynyddu yn yr 80au a'r 90au.
Dyma ydi hanes lidos ar draws Prydain gyfan, ac yn wahanol i barciau cyhoeddus neu fannau naturiol gwarchodedig ni lwyddodd y lidos, a gafodd eu hadeiladu a brwdfrydedd yn yr 1920au, gyrraedd yr unfed ganrif ar hugain.
Ond mae yna obaith i ddyfodol y lido yng Nghymru. Cafodd Pontypridd y niferoedd uchaf o ymwelwyr i'w lido yn 2021 ac mae ymgyrchoedd i ail-agor nifer ar draws y wlad gan gynnwys Brynaman, Y Fenni a'r Bari.
Wrth i'r gwanwyn gyrraedd mae Cymru Fyw wedi tyrchu am gofnodion y lidos a fu.