'Hwb mawr' i bêl-droed merched ond rhai heriau'n parhau

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae CPD Bancffosfelen wedi gweld cynnydd sylweddol yn niferoedd y merched sy'n dod i sesiynau ymarfer

Mae merched ifanc yn cael eu hysbrydoli gan lwyddiant y timau pêl-droed cenedlaethol - ond mae 'na rwystrau'n parhau.

Dyna farn un cyn-bêl-droediwr sydd bellach yn athro addysg gorfforol ac yn sylwebydd.

Gyda'r dynion wedi gadael am Qatar a'r tîm merched cenedlaethol wedi cael blwyddyn lwyddiannus, mae'r cyffro o amgylch y gamp yn hwb i ferched ifanc, meddai.

Ond fe rybuddiodd Gwennan Harries fod prinder arian a rhai "agweddau hen ffasiwn" yn dal i greu problemau a'i bod hi ei hun wedi profi rhai sylwadau sarhaus fel sylwebydd.

'Yna i lenwi gap'

Bydd Gwennan Harries yn rhan o dîm sylwebu S4C yn Qatar ac mae wedi gweld cynnydd enfawr ym mhoblogrwydd y gamp ymysg merched dros y blynyddoedd diwethaf.

"O'n i byth yn meddwl fyse'n i'n gweld y gêm yn datblygu mor gyflym â mae wedi felly'r gobaith yw bod hwnna'n mynd i barhau," dywedodd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwennan Harries (chwith) yn rhan o dîm sylwebu S4C yng Nghwpan y Byd

Ond fe dynnodd sylw at "agweddau hen ffasiwn" sy'n dal i fodoli o amgylch gêm y merched.

"Ti ond angen gweld y gwefannau cymdeithasol i weld faint o sylwadau ac ystrydebau sydd gyda'r gêm," dywedodd.

"Hyd yn oed i fi, pan fi'n sylwebu, ma' rhai pobl jyst yn gweud bo' fi fan 'na er mwyn llenwi gap."

Dywedodd bod pethau'n gwella gan fod merched Cymru yn cael eu gweld yn gyson erbyn hyn.

"Mae angen parhau gyda faint o sylw mae'r merched cenedlaethol yn cael achos ma' hwnna'n helpu i ysbrydoli trwy gael modelau rôl, y normalrwydd o'u gweld nhw yn gyson."

'Fi jyst yn caru pêl-droed'

Disgrifiad o’r llun,

Mae Beca wrth ei bodd yn sgorio goliau a'i harwyr yw Rachel Rowe a Jess Fishlock

"Fi jyst yn caru pêl-droed, mae e jyst mor hwyl," dywedodd Beca, wyth oed, sy'n chwarae gyda Chlwb Pêl-droed Bancffosfelen yn Sir Gaerfyrddin.

Roedd aelodau'r clwb yn rhai o'r miloedd aeth i wylio menywod Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd eleni.

Ac wrth i'r timau cenedlaethol fynd o nerth i nerth, mae niferoedd y merched sy'n dod i hyfforddi ym Mancffosfelen bob wythnos wedi cynyddu'n sylweddol hefyd.

"O'n ni 'di mynd ar bws i Gaerdydd i weld Cymru ond o'n nhw ddim 'di ennill," ychwanegodd Beca.

"Fi'n hoffi Rachel Rowe a Jess Fishlock achos ma' nhw'n sgori lot o gôls!"

Disgrifiad o’r llun,

Mae Hannah, Celyn a Sisial wrth eu bodd yn chwarae pêl-droed gyda'r clwb ac yn edrych ymlaen at Gwpan y Byd

"O'dd e'n amazing," dywedodd Celyn, 11, wrth siarad am y profiad o wylio'r merched yn chwarae'n erbyn Slofenia.

"Ar y bws, o'n ni just yn canu'r holl ffordd 'na, Hen Wlad Fy Nhadau a Calon Lân, pob cân chi'n gallu meddwl am!

"Fi'n credu bod Jess Fishlock yn ysbrydoli fi."

Dywedodd Efa, 11: "Pan fi'n tyfu lan fi'n rili gobeithio bydda i'n gallu bod yn chwaraewr pêl-dreod... falle fel Rachel Rowe."

Disgrifiad o’r llun,

Rachel Rowe (chwith) sy'n ysbrydoli Efa (dde) o glwb Bancffosfelen

Gyda'r dynion wedi gadael am Qatar, gweld Cymru'n ennill Cwpan y Byd yw'r gobaith i Sisial sy'n 10 oed ac sy'n chwarae gyda'r clwb ac yn yr ysgol.

Ond dywedodd Hannah sy'n 10 oed nad yw hi'n cael fawr o gyfle i chwarae yn yr ysgol.

"Ma' rhan fwyaf o'r bechgyn yn chwarae ond wedyn 'sdim lot o'r merched yn... mae'n gallu bod yn difficult."

Rhieni yn gwirfoddoli

Mae 'na heriau'n dod gyda chynnydd yn niferoedd y chwaraewyr - mae angen hyfforddwyr i ateb y galw.

Mae Hayley Williams yn rhiant sy'n helpu gyda hyfforddi'r merched bob nos Wener a dywedodd bod dibynnu ar wirfoddolwyr yn her.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Vicky Day (chwith) a Hayley Williams (dde) yn hyfforddi merched Bancffosfelen ac yn dibynnu ar wirfoddolwyr i helpu

"Ni'n ffodus iawn ym Mancffosfelen, mae'r rhieni'n hyfforddi, ma' nhw'n rhoi eu hamser i ddod bob wythnos i hyfforddi'r merched a mynd â nhw i gystadleuaethau ar ddydd Sadwrn," dywedodd.

"Ond ni'n gorfod dibynnu ar rieni."

Ychwanegodd Vicky Day, sy'n rhedeg y timau merched, bod rhieni'n gorfod gwneud llawer o waith codi arian hefyd.

'Rhaid cael cyfleoedd cyfartal'

Yr ateb, meddai Gwennan Harries, fyddai rhagor o gyllid a hyfforddiant i wirfoddolwyr ac athrawon.

"Mae angen bod gwaith yn cael ei wneud ymhellach o fewn grassroots... a sicrhau bod merched yn cael yr un cyfleoedd ar lefel is o fewn yr ysgolion ac ar lefel clwb hefyd.

"Mae angen buddsoddiad, buddsoddiad o ran cyfleusterau, buddsoddiad o ran safon yr hyfforddi neu'r dysgu, a bach o wella hyder."

Erbyn hyn, mae gan CBDC bennaeth pêl-droed merched a dros y blynyddoedd diwethaf mae'r cynghreiriau wedi cael eu hail-drefnu yn "sylweddol".

Yn rhan o'r ail-drefnu oedd y penderfyniad i dynnu'r gair "merched" o enw'r gynghrair mewn ymgais i sicrhau cydraddoldeb.

Yn ystod haf eleni, dywedodd y gymdeithas y byddan nhw'n rhoi £4m yn rhagor o gyllid i gyfleusterau pêl-droed llawr gwlad o ganlyniad i gyrraedd Cwpan y Byd.

Y nod yw "creu cenedl bêl-droed flaenllaw," ychwanegon.

Dywedon y byddan nhw hefyd yn cyhoeddi'r rowndiau nesaf o gyllid ar gyfer pêl-droed llawr gwlad yn yr hydref, ac yn egluro sut y gall clybiau wneud cais am y cyllid.