'Mynd i Gwpan y Byd yn bwysicach na pherchen ar dŷ fy hun'
- Cyhoeddwyd
"Ry'n ni wedi mynd ar cymaint o dripiau tramor gyda Cymru dros y blynyddoedd diwetha' - mae mynd i Gwpan y Byd yn teimlo fel rhyw fath o wobr."
Fe ddechreuodd Lauren a Kerrin McNie wylio gemau Cymru pan yn blant bach, ac maen nhw wedi bod yn teithio'r byd yn dilyn eu harwyr ers rhyw wyth mlynedd.
Ymhen llai na mis bydd y ddwy yn paratoi i wylio gêm agoriadol Cymru yn Qatar, yn erbyn yr Unol Daleithiau - gornest gynta' Cymru yng Nghwpan y Byd ers 64 mlynedd.
"Dy'n ni ddim eisiau gwario'n arian i gyd ar fynd dramor, ond mi allai hwn fod yr unig gyfle yn ein bywyde i weld Cymru yng Nghwpan y Byd," meddai Lauren, o Lantrisant yn RHondda Cynon Taf.
"Bydden ni 'di dod o hyd i unrhyw ffordd i gyrraedd, hyd yn oed am un gêm."
Mae disgwyl i filoedd o Gymry deithio i Qatar, ond dyw hi ddim wedi bod yn benderfyniad hawdd am sawl rheswm.
Un o'r rhwystrau amlycaf yw'r gost o gyrraedd y Dwyrain Canol, ac i dalu am lety yno yng nghanol argyfwng costau byw 'nôl adref.
Mae'r chwiorydd wedi dewis pecyn gyda chwmni teithio Wonky Sheep, sy'n tua £2,500 yr un am eu hediadau a llety ar gyfer y tair gêm sydd gan Cymru yng Ngrŵp B rhwng 21 a 29 Tachwedd.
Mae'r ddwy wedi bod yn arbed arian ers tro, ac yn meddwl am bob ffordd i dorri lawr ar eu costau draw yn Doha.
"Fi wedi bod yn safio lan i gael cartre' fy hyn, ond i mi mae mynd i Cwpan y Byd yn fwy pwysig na bod yn berchen ar dŷ fy hun ar hyn o bryd," meddai Lauren, sy'n 34 oed.
"Ond mae gen i weddill fy mywyd i arbed arain am deposit ar gartre'. Gallai hwn fod yr unig gyfle ga'i mewn bywyd."
Er hynny mae Lauren yn ymwybodol y bydd rhaid talu am y daith am sbel go hir.
"Mae'r argyfwng costau byw yng nghefn fy meddwl, ond dwi ddim am iddo amharu ar fy nghynnwrf, er fi'n gwybod y bydd rhaid i mi ddelio gyda fe ar ôl dod adre'."
Mae Kerrin, 32, hefyd wedi bod yn cynilo ers sbel ac yn barod i fyw'n ddarbodus yn Qatar.
"Mae ganddo ni fflat gyda chegin," meddai, "felly fydd ddim rhaid i ni fwyta mas bob nos."
Mae'r ddwy yn chwilio am weithgareddau am ddim yn Doha, ac wedi penderfynu rhannu'r fflat gyda chefnogwr sy'n teithio'n sengl.
"Mae 'na dri ohonon ni'n mynd," meddai Kerrin. "Mae'r fflat yn ddigon mawr i bedwar, felly rydyn ni wedi cytuno i rannu gydag un arall er mwyn torri lawr ar y costau."
Meddwl mynd - ond peidio
Ond i eraill roedd y gost o deithio ac aros yn Qatar yn ormod.
Penderfynodd Meilyr Emrys, cefnogwr selog sydd wedi dilyn Cymru oddi cartref droeon, fod gormod o ffactorau oedd yn golygu nad fyddai'n cael yr un mwynhâd o ddilyn y tîm i Doha.
"Hyd yn oed ar ôl os ti'n rhoi o i'r ochr am eiliad yr holl gwestiynau 'na ynglŷn â Qatar fel gwlad, o ran profiad cefnogwyr, doedd o jyst ddim werth y pres," meddai.
"Yn ariannol, o be' fyswn i'n ei gael allan ohona fo, fysa fo ddim werth o - 'sa well gen i safio fy arian ar gyfer rhywbeth arall, fel [Ewros] Yr Almaen yn 2024 er enghraifft."
Bu'n rhaid i Edward Lewis, 28, o Landysul hefyd dderbyn y bydd yn rhaid iddo wylio'r gemau yng Nghymru.
"Yn y dechrau fe gollon ni'n pennau fymryn a deud reit, faint yw'r ffleits a llety, ond wedyn ro'n ni'n sylwi pa mor ddrud fydde'r cwrw, bwyd a jest bod yno, heb sôn am y gost o gyrraedd yno yn y lle cynta," meddai.
"Rwy'n gutted na fydda i yno yn gwylio Cymru yng Nghwpan y Byd achos dyna un o freuddwydion pob cefnogwr.
"Roedd e'n anodd i benderfynu, ond ar ddiwedd y dydd rwy'n credu i mi wneud y penderfyniad cywir."
Rheswm arall sydd gan Ed yw ei fod yn arbed arian i brynu tŷ.
"Rwy wedi mynd o safbwynt 'nôl ym mis Mehefin lle ro'n i'n meddwl y gallen ni wario'r arian yn Qatar ac arbed eto ar ôl dod 'nôl," meddai.
"Ond nawr gyda fel mae'r farchnad dai, fydden ni'n arbed am 10 mlynedd arall."
Y Cymro sy'n Qatar
Mae Callan Bowden yn byw a gweithio yn Qatar ers wyth mlynedd, ac yn gyfarwyddwr athletau mewn ysgol ryngwladol yn Doha.
Mae'n falch y bydd 'na Gymry yn teithio i Qatar i brofi diwylliant y wlad.
"Rwy'n credu fod angen i rai pobl ailfeddwl am yr hyn maen nhw'n ddarllen am y wlad," meddai Callan, sydd o ardal Trelluest yng Nghaerdydd yn wreiddiol.
"Oes, mae'n rhaid bod yn barchus o'r diwylliant Islamaidd yma, ond rhaid mwynhau a dathlu Cwpan y Byd cynta' yn y Dwyrain Canol.
"Mae Grangetown [yng Nghaerdydd] yn gymuned amlddiwylliannol, ac mae'n debyg iawn yma hefyd. Mae miloedd o bobl o bob math o gefndir."
Mae gan Callan hefyd gyngor ar ffyrdd y gallai'r Cymry arbed arian.
"Mae pethau yn fwy drud ar ôl y gwymp diweddar yn y bunt," meddai. "Ond mae'n bwysig gwario'n ddoeth.
"Mae 'na hen ddigon o fwytai lle gewch chi bryd da am ryw 30-35 Riyal, sydd tua £6-7," meddai.
"Rhaid cofleidio'r diwylliant gwahanol sydd yma a mwynhau'r daith ry'n ni arno, a gobeithio y bydd yn parhau am amser hir."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2022