'Cynnydd sylweddol' yn y galw am gyfieithwyr Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae angen recriwtio mwy o bobl i ddod yn gyfieithwyr yn sgil "cynnydd sylweddol" yn y galw am eu gwasanaeth.
Dyna'r alwad gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, wrth iddyn nhw gyhoeddi eu bod yn haneru prisiau arholiadau aelodaeth er mwyn ceisio annog mwy o bobl i weithio yn y maes.
Dywedodd cadeirydd y gymdeithas, Manon Cadwaladr, fod cyflwyno Safonau'r Gymraeg yn golygu bod sefydliadau cyhoeddus bellach yn gorfod darparu mwy o wasanaethau yn y Gymraeg.
Ond mae'r newid i'w weld yn y sector breifat hefyd, meddai, gyda chwmnïau'n awyddus i gael eu "gwerthfawrogi" gan eu cwsmeriaid, a'r maes chwaraeon hefyd wedi rhoi platfform pellach i'r iaith.
'Datblygiadau technoleg yn helpu'
"Dwi'n meddwl y byddai pobl yn rhyfeddu at faint o gyfieithiadau rydyn ni'n eu darllen yn ein bywydau bob dydd, boed hynny yn ein gwaith, ar gyfryngau cymdeithasol neu yn yr ysgol," meddai Ms Cadwaladr, sydd hefyd yn gyfarwyddwr ar gwmni cyfieithu Cymen yng Nghaernarfon.
"Mae'n hollol ffantastig bod mwy a mwy o sefydliadau a busnesau'n darparu gwasanaethau Cymraeg, ond mae'n rhaid cael llu o gyfieithwyr galluog a chymwysedig i wneud y gwaith hollbwysig yma."
Yn ôl Ms Cadwaladr mae'r "galw am gyfieithwyr medrus yn dal i godi", gyda dros 50 o swyddi wedi cael eu hysbysebu gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf.
"Mae cyflwyno Safonau'r Gymraeg yn sicr wedi arwain at gynnydd ymysg sefydliadau cyhoeddus i sicrhau eu bod nhw'n darparu gwasanaethau yn y Gymraeg," meddai.
"Ond hefyd mae yna fwy o ymwybyddiaeth ymysg cwmnïau preifat bod y Gymraeg yn gwneud gwahaniaeth - gan gynnwys cwmnïau mawr rhyngwladol fel Aldi, Starbucks, Microsoft.
"Maen nhw'n gweld y Gymraeg fel arf marchnata defnyddiol ac yn rhywbeth mae eu cwsmeriaid wir yn ei werthfawrogi."
Mae datblygiadau technoleg hefyd wedi helpu, meddai Ms Cadwaladr.
"Er enghraifft rydych chi'n gweld hynny gyda phethau fel y sgriniau mewn bwytai i archebu eich bwyd neu wrth sganio eich nwyddau mewn archfarchnadoedd," meddai.
"Oherwydd bod y dechnoleg yn gallu delio â mwy nag un iaith, mae hi'n eithaf hawdd i fusnesau ychwanegu'r Gymraeg heb gost fawr ychwanegol."
Ac er gwaethaf "datblygiadau grêt" gyda rhaglenni a pheiriannu cyfieithu, dyw Ms Cadwaladr ddim yn credu y byddan nhw'n cymryd lle cyfieithwyr go iawn yn y dyfodol.
"Maen nhw'n declynnau defnyddiol, ond mae'n rhaid cofio mai dyna'r oll ydyn nhw, teclynnau, rhywbeth i helpu," meddai.
"Ella eu bod nhw'n gallu cynnig fersiwn cyntaf ar gyfieithiad i chi, ond rhaid cael gallu, crefft a sgiliau cyfieithydd proffesiynol a chymwys i gynhyrchu cyfieithiad hollol gywir, clir a hawdd ei ddarllen."
Haneru costau
Mae sylw ychwanegol i Gymru ar y meysydd chwarae hefyd yn arwain at fwy o alw am gyfieithiadau a gwasanaethau yn y Gymraeg, meddai.
"Er enghraifft mae darlledu gemau rygbi Cymru ar Amazon Prime wedi arwain at waith cyfieithu o amgylch hynny, ac mae codi ymwybyddiaeth o'r iaith drwy Gymdeithas Bêl-droed Cymru a'r hyn sy'n digwydd gyda Chlwb Pêl-droed Wrecsam yn sicr yn hybu diddordeb hefyd."
Er mwyn ceisio ateb y galw mae'r Gymdeithas, sy'n cael ei hariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru, wedi haneru eu ffioedd ar gyfer sefyll arholiadau aelodaeth.
Mae'n golygu y byddai bellach yn costio £52.50 ar gyfer arholiad sylfaenol cyfieithu i'r Gymraeg, neu £90 i wneud dau brawf fel bod modd cyfieithu i'r Gymraeg neu'r Saesneg.
Mae gan y Gymdeithas arholiadau pellach ar gyfer sgiliau uwch, gan gynnwys cyfieithu ar y pryd, gydag aelodaeth blynyddol hefyd yn costio £150.
Ond mae hynny, medden nhw, yn galluogi pobl i ymuno â'r 400 o aelodau'r Gymdeithas sydd eisoes wedi "dangos y lefel briodol o allu proffesiynol" wrth gyfieithu.
Yn ôl Alun Gruffydd, sy'n cyflogi 11 o bobl yng nghwmni cyfieithu Bla yn Llangefni, mae'r diwydiant yn cynnig "swyddi da a pharhaol i Gymry Cymraeg lleol" a hynny "mewn cyfnod economaidd heriol".
"Gall diwrnod arferol y cyfieithydd gynnwys taclo pennawd bachog i archfarchnad, rysáit i fwyty enwog, bywgraffiad canwr opera, neu daflen natur i un o'n cyrff cefn gwlad mwyaf blaenllaw," meddai.
"Mae technoleg newydd a meddalwedd cyfieithu pwrpasol hefyd yn sicrhau bod gan bob cyfieithydd y gallu i ddatblygu ei grefft yn y byd modern heddiw."
Defnyddio'r Gymraeg yn 'naturiol'
Mewn cyfweliad diweddar ar ôl cael ei phenodi'n Gomisiynydd y Gymraeg newydd, dywedodd Efa Gruffudd Jones mai un o'i phrif dargedau yn y swydd oedd ""gweld mwy o bobl yn siarad a mwy o bobl yn defnyddio'r Gymraeg".
Ei swyddfa hi sy'n gyfrifol am weithredu Safonau'r Gymraeg i gyrff cyhoeddus, a dywedodd bod cael gwasanaethau cyfieithu "proffesiynol" yn hollbwysig yn y nod hwnnw.
"Mae'n braf nodi fod sefydliadau a busnesau yn gweld y gwerth cynyddol mewn cynnig gwasanaethau yn y ddwy iaith a bod dealltwriaeth fod rhaid gwneud hynny yn broffesiynol," meddai.
"Mae angen sicrhau y gall pobl gael mynediad at amryw wasanaethau yn eu dewis iaith er mwyn gwneud y Gymraeg yn iaith naturiol a ddefnyddir yn ddyddiol.
"Hoffwn longyfarch Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru ar eu hymdrechion wrth hwyluso'r broses o gymhwyso a hoffwn annog unrhywun i ystyried y posibiliad gan y gall agor drysau i gymaint o wahanol feysydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mai 2018
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2023