Yr Wythnos Mewn Lluniau: 29 Ionawr - 4 Chwefror

  • Cyhoeddwyd

Dolffiniaid ar draeth, reslo braich a sêr y byd dartiau yn dod i Gaerdydd... dyma edrych yn ôl ar rai o luniau'r wythnos ar Cymru Fyw.

Ffynhonnell y llun, Aled Roberts
Ffynhonnell y llun, Michael Holt
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Michael Holt angen mynd â meddyginiaeth ar gyfer diabetes math 1 ar ei daith

Dyma Michael Holt o Borthmadog, dyn sy'n bwriadu rhwyfo 3,000 o filltiroedd ar draws Cefnfor yr Iwerydd o Gran Canaria yn Sbaen i Barbados. Mae gan Michael diabetes math 1 ac wedi pacio digonedd o fwyd a nwyddau ar gyfer y daith, yn ogystal â chist gyda'i holl feddyginiaeth ynddo. Mae Michael wedi penderfynu rhoi'r enw MYNADD ar ei gwch, gan y bydd angen llawer o amynedd i gwblhau'r her.

Disgrifiad o’r llun,

Dyma fydd y tro cyntaf i Sian Hughes (chwith) a Carol Jones (dde) gymryd rhan mewn cystadleuaeth

Dyma Sian Hughes a Carol Jones. Mi fydd y ddwy yn cystadlu yn nhwrnamaint rhanbarthol reslo braich Prydain, sydd yn cael ei gynnal ym mhentref Edern, Pen Llŷn, y penwythnos yma.

Mae Wrecsam allan o gwpan FA Lloegr ar ôl cael eu curo gan Blackburn Rovers yn y bedwaredd rownd. Colli fu hanes Wrecsam o 4-1 yn erbyn Blackburn Rovers yn Ewood Park ddydd Llun.

Ffynhonnell y llun, SOS Extreme Rescues

Dyma Dave Williams, un o gyfranwyr y gyfres SOS: Extreme Rescues, wrth ei waith gyda thîm chwilio ac achub Aberdyfi. Mae Dave wedi bod yn gwirfoddoli ac yn achub bywydau ers hanner canrif.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Bu'n rhaid i'r Gwasanaeth Tân ymateb ar ôl i dyrbin gwynt fynd ar dân yn Sir Gaerfyrddin ddydd Sul. Roedd rhannau o'r tyrbin ar Fferm Wynt Blaen Bowi ger Castellnewydd Emlyn i'w gweld yn disgyn i'r ddaear.

Ffynhonnell y llun, Mari Grug

Dyma'r cyflwynydd Mari Grug yn mynychu sesiwn o driniaeth chemotherapy ar gyfer canser y fron. Mewn sgwrs arbennig gyda Cymru Fyw, bu Mari'n rhannu ei gobeithion ar gyfer y dyfodol a'r camau nesaf yn ei thriniaeth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Daeth chwaraewyr dartiau gorau'r byd i Gaerdydd nos Iau - ac yn eu plith y llanc ifanc a ddaeth yn seren dros nos... Luke Littler. Dyma (o'r dde i'r chwith) Peter Wright, Rob Cross, Nathan Aspinal, Luke Humphries, Michael van Gerwen, Michael Smith, Gerwyn Price a Luke Littler yn sefyll i gael llun mewn digwyddiad i'r wasg yn Stadiwm y Principality.

Ffynhonnell y llun, Gwylwyr y Glannau Bae Cemaes

Cafodd chwech o ddolffiniaid eu canfod ar draeth ger Y Fali, Caergybi ar Ynys Môn fore Mercher. Fe lwyddodd achubwyr i'w rhoi yn ôl yn y dŵr wrth i'r llanw ddod i mewn ac fe achubwyd pump ohonynt, ond yn anffodus fe gafodd corff un dolffin ei ganfod yn farw ar y lan y bore canlynol.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Mae pont newydd ar ffordd allweddol rhwng de a gogledd Cymru yn agor wedi tair blynedd o waith adeiladu. Mae'r bont ar yr A487 dros Afon Dyfi ger Machynlleth wedi costio £46m a'r gobaith yw y bydd yn lleihau problemau llifogydd cyson ar bont bresennol Pont-ar-Ddyfi.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig