Dyn o Chwilog yn un o gystadlaethau dartiau mwya'r byd
Mae Pencampwriaeth Dartiau'r Byd i Chwaraewyr Hŷn yn dechrau nos Iau, ac ymhlith y rhai ar yr oci dros y penwythnos fydd Eirig Rowlands o Chwilog.
Chwaraewr 17 oed - Luke Littler - sy'n gyfrifol am godi proffil y gamp yn ddiweddar, ond pobl dros 50 oed sy'n cystadlu yn y Seniors World Darts Championships.
Gyda rhai o enwau mawr y gamp o'r gorffennol yn cystadlu, fel Phil Taylor a Martin Adams, llwyddodd Eirig i sicrhau ei le yn y gystadleuaeth ar y cyfle olaf yr wythnos ddiwethaf.
Ar ôl byw yn Costa Rica am 20 mlynedd, mae bellach 'nôl yng Nghymru ers 12 mlynedd.