£500,000 i ddenu mwy i eisteddfodau cenedlaethol eleni
- Cyhoeddwyd

Mae'r arian ar gyfer Prifwyl eleni yn golygu y bydd tocynnau mynediad am ddim ar gael i filoedd o drigolion lleol cymwys
Bydd eisteddfodau cenedlaethol Cymru'n derbyn £500,000 yn ychwanegol eleni, er mwyn ei gwneud hi'n haws i deuluoedd ac unigolion ar incwm isel fwynhau'r gwyliau celfyddydol.
Fe fydd Llywodraeth Cymru'n darparu £350,000 i Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, sy'n cael ei chynnal ym Mhontypridd ym mis Awst.
Bydd £150,000 yn ychwanegol ar gael i ddenu pobl i Eisteddfod yr Urdd ym Maldwyn, sy'n dechrau ddiwedd Mai.
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, ei fod yn "falch iawn o gyhoeddi'r cyllid ychwanegol yma i gefnogi ein gwyliau Cymraeg cenedlaethol".
Ychwanegodd: "Mae'r Eisteddfodau nid yn unig yn uchafbwynt diwylliannol yn y calendr Cymreig, ond hefyd yn gyfle gwych i bobl weld, clywed a siarad Cymraeg, a chymryd rhan yn y gwahanol gystadlaethau a digwyddiadau cymdeithasol sydd ar gael.
"Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac rwy am sicrhau fod pawb yn cael y cyfle i fynychu a mwynhau ein heisteddfodau."
Mae'r Llywodraeth wedi cyfrannu arian er mwyn helpu teuluoedd ar incwm isel i ymweld â'r Brifwyl yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf, ond dyma'r cyfraniad mwyaf sylweddol hyd yn hyn.
Roedd £50,000 ar gael yn Llanrwst yn 2019, £150,000 yng Ngheredigion yn 2022 a £150,000 hefyd yn Llŷn ac Eifionydd y llynedd.
Mae'r arian ychwanegol ar gyfer Prifwyl eleni yn golygu y bydd tocynnau mynediad am ddim a thalebau bwyd ar gael i hyd at 18,400 o drigolion lleol cymwys yn ardal Pontypridd.
'Tocyn a thalebau bwyd'
Dywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol: "Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth er mwyn sicrhau fod trigolion lleol yn cael cyfle i ymweld â'r Eisteddfod eleni.
"Bydd y cynnig yn cynnwys tocyn am ddim i'r Maes ynghyd â thalebau bwyd.
"Rydyn ni'n meddwl ei bod hi'n hollbwysig ein bod ni'n gallu cynnig mwy na thocyn Maes er mwyn sicrhau bod ein gŵyl yn hygyrch i bawb sy'n dymuno dod draw i Barc Ynysangharad ddechrau Awst, mwynhau diwrnod arbennig a chael blas ar ein hiaith a diwylliant.
"Byddwn yn cyhoeddi rhagor o fanylion am y tocynnau maes o law, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu pawb atom yn fuan."

Parc Ynysangharad yng nghanol Pontypridd fydd prif leoliad yr ŵyl eleni.
Mae rhai pryderon wedi eu codi gan bobl leol oherwydd y bydd angen rhwystro mynediad i rannau o'r parc am ran helaeth o'r haf.
Mae pryderon hefyd wedi eu codi am draffig yn yr ardal, ond mae'r cyngor yn gobeithio y bydd croeso i'r cyhoeddiad diweddaraf yma yn lleol.
Mae'r cyngor wedi diolch i Lywodraeth Cymru am y "cyllid hael yma".
Dywedodd Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Andrew Morgan: "I lawer o bobl yn Rhondda Cynon Taf, dyma'r Eisteddfod gyntaf iddyn nhw ei chael ar stepen y drws.
"Yn ystod yr argyfwng costau byw, mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod cymaint o bobl â phosib, beth bynnag fo'u hamgylchiadau, yn gallu ymuno a chael eu hysbrydoli gan yr Eisteddfod.
"Fel cyngor, rydyn ni wedi gweithio'n agos gyda'r Eisteddfod i greu digwyddiad cynhwysol y gall y gymuned gyfan fod yn rhan ohono, ac mae'r cyllid yma'n tanlinellu'r uchelgais hwnnw."
Yr Eisteddfod Genedlaethol fydd yn gweinyddu'r cyllid a gwerthiant tocynnau.
Fe fydd yr Urdd yn cyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer tocynnau mynediad ar 18 Mawrth - ar ôl cynnal pob Eisteddfod Cylch a Rhanbarth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2023