Covid: 'Cyhoeddwch negeseuon WhatsApp y llywodraeth'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Arwydd rheolau covid

Mae bargyfreithiwr sy'n cynrychioli teuluoedd mewn profedigaeth yn yr ymchwiliad Covid yng Nghaerdydd wedi galw am gyhoeddi holl negeseuon WhatsApp Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig.

Cafwyd areithiau cloi fore Iau, wrth i dair wythnos o wrandawiadau yng Nghymru ddod i ben.

Cyhuddwyd Llywodraeth Cymru o ymateb cynnar "goddefol, araf a digyswllt" i'r pandemig yn gynnar yn 2020.

Dywedodd Kirsten Heaven, cwnsler Teuluoedd mewn Profedigaeth Covid-19 Cymru, fod Llywodraeth Cymru wedi osgoi craffu mwy manwl ar benderfyniadau trwy wrthod ymchwiliad i Gymru yn unig.

Nod y llywodraeth, meddai, oedd gwrthdroi bai trwy fynnu na wnaed penderfyniadau ar WhatsApp ond dywedodd fod cyfathrebiadau'r llywodraeth yn ystod yr argyfwng wedi'u dileu.

"Rydym yn gwahodd yr ymchwiliad i gyhoeddi'r holl WhatApps er mwyn i bobl Cymru gael gweld ar gyfer beth roedd eu llywodraeth yn defnyddio negeseuon anffurfiol."

'Byrbwylltra'

Roedd y llywodraeth wedi gwrthod derbyn methiannau, dros gynulliadau torfol, profion mewn cartrefi gofal a gorchuddion wyneb, meddai

Dywedodd Ms Heaven y bu ymateb cynnar "goddefol, araf a digyswllt" i'r pandemig, er gwaethaf y gwaith ar y bygythiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Roedd gan Gymru ddiffyg "arweinyddiaeth strategol genedlaethol" meddai.

O ran cartrefi gofal, dywedodd fod "byrbwylltra" Llywodraeth Cymru wedi amlygu preswylwyr i Covid, pan orfododd cartrefi i dderbyn preswylwyr oedd â'r feirws o ysbytai.

Dywedodd Adam Straw KC ar ran Ymgyrch John a Care Rights UK fod trigolion cartrefi gofal wedi cael eu "hesgeuluso'n aml".

Wrth gael eu rhyddhau o ysbytai i gartrefi gofal, dywedodd fod y llywodraeth yn ymwybodol iawn o bryderon ac na weithredwyd ar y rhain.

Dywedodd mai dim ond cyfran fach iawn o'r profion oedd ar gael fyddai wedi bod yn ofynnol, ac yr oedd stociau PPE [Cyfarpar Diogelu Personol] yn "druenus o annigonol."

Dywedodd Mr Straw fod canllawiau croes, anghyson a dryslyd - a fyddai wedi elwa o gael unigolyn penodol yn y llywodraeth yn gyfrifol am eu goruchwylio a'u cyfathrebu.

Roedd ynysu o ymweliadau gan anwyliaid hefyd yn achosi niwed difrifol, tra bod gofal cymdeithasol yn cael ei ystyried yn eilaidd o'i gymharu â'r GIG ac roedd gofalwyr di-dâl hefyd yn cael eu hesgeuluso, meddai.

Ffynhonnell y llun, Ymchwiliad Covid-19 y DU
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tri aelod blaenllaw o lywodraeth Lafur Cymru ymhlith y rhai a roddodd dystiolaeth

Dywedodd Danny Friedman KC, sy'n cynrychioli Cymru Anabl, nad oedd system Llywodraeth Cymru o argyfyngau sifil posibl yn wydn yn ystod y pandemig.

Ac er gwaethaf maint Cymru nid oedd meddwl cydgysylltiedig bob amser, meddai.

Dywedodd mai'r broblem i Gymru oedd ei bod yn rhy fach o ran y pŵer oedd ganddi a'r gallu sydd ganddi i wneud pethau'n wahanol, a chael ei chymryd yn ganiataol gan Lywodraeth y DU.

Beirniadodd hefyd y gwaith o gasglu data iechyd a chymdeithasol am bobl anabl, tra nad oedd hawliau anabledd "wedi'u gwreiddio mewn prosesau gwneud penderfyniadau amser real" mewn cynllunio at argyfwng.