Ethol Vaughan Gething yn ffurfiol yn brif weinidog

  • Cyhoeddwyd
Fe dyngodd Vaughan Gething lw mewn seremoni ym Mae Caerdydd, wedi i'r Brenin Charles gymeradwyo ei enwebiadFfynhonnell y llun, Matthew Horwood/Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Vaughan Gething yn tyngu llw swyddogol fel Prif Weinidog Cymru yng Nghaerdydd o flaen yr Anrhydeddus Mr Ustus Griffiths, Uwch Farnwr Llywyddol Cylchdaith Cymru

Mae Vaughan Gething wedi ei ethol yn ffurfiol yn Brif Weinidog Cymru mewn pleidlais yn y Senedd.

Cafodd Mr Gething ei ddewis yn arweinydd Llafur Cymru dros y penwythnos gan drechu ei unig wrthwynebydd yn y ras, Jeremy Miles.

Fe dyngodd lw mewn seremoni ym Mae Caerdydd, wedi i'r Brenin Charles gymeradwyo ei enwebiad.

Bydd nawr yn gallu troi ei sylw at ffurfio cabinet newydd.

Gan fod Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) ac Andrew RT Davies (Ceidwadwyr) hefyd wedi cael eu henwebu yn y Senedd i fod yn brif weinidog, roedd rhaid iddo ennill pleidlais ymysg Aelodau o'r Senedd.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood/Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Vaughan Gething nawr yn gallu troi ei sylw at ffurfio cabinet newydd

Llwyddodd i ennill y bleidlais honno brynhawn Mercher gyda 27 o bleidleisiau. Cafodd Mr RT Davies 13 pleidlais, a Mr ap Iorwerth 11.

Mae'n olynu Mark Drakeford a fu'n brif weinidog ers 2018. Fe wnaeth Mr Gething sefyll i fod yn arweinydd Llafur y tro hwnnw hefyd.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mr Gething ei enwebu ar gyfer y bleidlais gan y cyn-brif weinidog, Mark Drakeford

'Gelyniaeth ddigynsail'

Yn ei araith gyntaf yn y siambr fel Prif Weinidog, dywedodd Mr Gething: "Dros y blynyddoedd diweddar rydym wedi gwthio'r ffiniau o'r hyn sy'n bosibl gyda datganoli."

"Fe wnaethon ni hynny i gadw Cymru'n ddiogel.

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Yn ei araith gyntaf, mynegodd Mr Gething ei fod am gydweithio gyda llywodraeth newydd yn San Steffan

"Ond dros yr un cyfnod rydym wedi gweld gelyniaeth ddigynsail tuag at ddatganoli democrataidd yng Nghymru gan Lywodraeth y DU sy'n benderfynol o danseilio, llesteirio ac osgoi Llywodraeth Cymru a'r Senedd yma.

"Fel prif weinidog rwy'n edrych ymlaen at sefyll i fyny dros Gymru a thros ddatganoli yn yr wythnosau a misoedd i ddod. Ond rwy'n croesawu'r cyfle i gydweithio dros Gymru gyda llywodraeth newydd i'r DU fydd yn buddsoddi mewn partneriaeth ac yn nyfodol Cymru."

Dywedodd Mr Gething hefyd mai ef oedd "arweinydd cyntaf fy mhlaid - ac yn wir fy ngwlad - gydag 'ap' yn ei enw".

Ei enw llawn yw Humphrey Vaughan ap David Gething, er ei fod yn defnyddio Gething fel cyfenw.

Er gwaetha'r anniddigrwydd ymysg rhai aelodau Llafur ynglŷn â'r rhoddion ariannol i ymgyrch Vaughan Gething, roedd ganddo gefnogaeth y grŵp Llafur cyfan.

Roedd rhaid i bob un ddweud ei enw ar lafar, ac roedd yna foment o oedi cyn i Lee Waters - un o gefnogwyr Jeremy Miles - ddatgan ei fod yn cefnogi Mr Gething.

Ond yn y pendraw fe bleidleisiodd pob un ohonyn nhw dros Vaughan Gething, heblaw am Jenny Rathbone oedd yn absennol.

Pan wnaed y cyhoeddiad roedd cymeradwyaeth yn y siambr a bloedd o gefnogaeth o'r galeri cyhoeddus.

Wrth ymateb dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Rwy'n llongyfarch Vaughan Gething ar ddod yn Brif Weinidog Cymru ac yn dymuno'n dda iddo.

"Mae'n etifeddu heriau sylweddol o ganlyniad i record Llafur mewn llywodraeth yng Nghymru, ynghyd â llymder y Torïaid.

"Mae economi sy'n pallu, rhestrau aros hirach y GIG a safonau addysgol sy'n gostwng yn etifeddiaeth o lywodraeth gyfunol y mae'r prif weinidog newydd wedi chwarae rhan ganolog ynddi ers dros ddegawd."

Dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd: "Mae gan Vaughan gyfle nawr am ddechrau newydd, i gael gwared ar brosiectau gwagedd Llafur a chyflawni ar gyfer ein GIG, ein hysgolion a theuluoedd ar hyd a lled Cymru.

"Mae ein neges i Vaughan yn glir: Os ydych yn barod i gael gwared ar gynlluniau ar gyfer mwy o wleidyddion, i gael gwared ar y terfyn cyflymder 20mya, a chael gwared ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy fel y mae yn ei ffurf bresennol, byddwn yn gweithio gyda chi i gyflawni blaenoriaethau'r bobl."