Cymru'n ffarwelio â'r Fflam Olympaidd

  • Cyhoeddwyd
Joanne Gregory yn cludo'r Fflam ar y gamlas dros y DraphontFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Joanne Gregory yn cludo'r Fflam ar y gamlas dros y Draphont

Mae'r Fflam Olympaidd wedi gadael Cymru am y tro olaf wrth iddi barhau am 58 niwrnod arall cyn i'r Gemau Olympaidd gychwyn yn Llundain.

Treuliodd y fflam noson yng Nghaer nos Fawrth ar ôl ei thaith o Fiwmares ar Ynys Môn.

Ond tua 7.20am ddydd Mercher fe wnaeth ddychwelyd i Gymru wedi i sawl person gael cyfle i gludo'r Fflam unwaith eto drwy strydoedd hen ddinas Rufeinig Caer.

Wrecsam oedd y lleoliad cyntaf yng Nghymru wrth i'r Fflam ddychwelyd.

John Atkinson gafodd y fraint o gludo'r Fflam am y tro cyntaf yn y dref gan gychwyn o flaen Prifysgol Glyndŵr ac anelu ar hyd Ffordd Yr Wyddgrug a heibio'r Cae Ras, cartref y tîm pêl-droed.

Roedd cannoedd o bobl wedi ymgasglu ar y stryd i weld y Fflam gyda channoedd yn fwy wedi bod yn ymgasglu ers tua 6am yn Llwyn Isaf lle roedd 'na lwyfannau i ddiddori'r dorf a disgyblion ysgol wedi codi'n gynnar i fod yn rhan o'r dathliad.

Protest

Yn Llwyn Isaf roedd 'na brotest dawel wrth i ddau ddyn arddangos baner enfawr gyda'r geiriau 'Nid ein lliwiau ni', yn gwisgo gwisg draig goch a gwisg Gymreig.

Dau yn gwrthwynebu gweld yr holl faneri Jac yr Undeb yn cynnal protest dawel yn Llwyn Isaf, Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Dau yn gwrthwynebu gweld yr holl faneri Jac yr Undeb yn cynnal protest dawel yn Llwyn Isaf, Wrecsam

Dywedodd un o'r ddau ddyn, Aled Cottle, 36 oed, o Sir Ddinbych, ei fod o a "Budgie" Burgess, 45 oed, o Sir y Fflint yn protestio yn erbyn holl faneri Jac yr Undeb sydd wedi eu gweld ar hyd y daith.

Wedi seibiant yno fe ailgychwynnodd y Fflam drwy weddill y dref.

Cafodd mwy o bobl gyfle i gludo'r Fflam gan gynnwys Joshua Hill, 13 oed sydd wedi brwydro yn erbyn leukaemia.

Ar hyd ei gymal o o'r daith fe redodd ei fam gyda fo.

"Dwi'n synnu bod fy nghoesau wedi mynd â fi gyda Josh, roedden nhw fel jeli cyn iddo gychwyn.

"Roedd yn brofiad arbennig."

Symudodd y Fflam ymlaen wedyn i Rostyllen ac i Acrefair cyn 9am.

Yn Rhostyllen cafodd mab Bethan McGuigan gyfle i redeg gydag un o swyddogion diogelwch y Fflam wrth i'w fam gludo'r Fflam.

Yn Acrefair roedd nifer o dai wedi eu harddurno mewn baneri gan gynnwys y Ddraig Goch a baneri Yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Erbyn cyrraedd Trevor roedd 'na gannoedd wedi ymgasglu wrth i'r Fflam ymweld â Safle Treftadaeth y Byd arall yng Nghymru.

Traphont

Dydd Gwener fe deithiodd i'r Pwll Mawr ym Mlaenafon, ac yna ddydd Mawrth bu yng Nghastell Biwmares - un o gestyll Edward I.

Muhammad UllahFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 'na fonllefau o gymeradwyaeth wrth i Muhammad Ullah, 12 oed, gludo'r Fflam drwy Acrefair

Mae hefyd wedi pasio heibio Castell Caernarfon, Castell Conwy a Chastell Rhuddlan.

Ar ôl mynd drwy Wrecsam, Rhostyllen ac Acrefair cyrhaeddodd Trevor ac yno fe wnaeth groesi Traphont Ddŵr Pontcysyllte ger Llangollen, a gafodd statws Safle Treftadaeth y Byd yn 2009.

Joanne Gregory o Landegla gafodd y fraint o gludo'r Fflam ar gwch ar y gamlas am ei gwaith gyda mudiad y Sgowtiaid.

Roed hi'n cludo'r Fflam hanner ffordd dros y bont cyn dychwelyd a throsglwyddo'r Fflam i'r cludwr nesaf.

Wedi gadael fe deithiodd y Fflam dros Glawdd Offa am gyfnod i Groesoswallt a Phant cyn dychwelyd ac ymweld â Llanymynech a'r Trallwng cyn gadael Cymru am y tro olaf i'r Amwythig ac ymlaen i Stoke-on-Trent.

Y dref olaf

Roedd 'na amrywiol faneri ar hyd y stryd yn Llanymynech wrth iddi ddychwelyd yn ôl i Gymru o Sir Amwythig.

Roedd torfeydd wedi ymgasglu yn Y Trallwng, y lleoliad olaf ar gyfer y Fflam yng Nghymru.

"Dwi'n credu bod pob disgybl yn y dref wedi dod yma i groesawu'r Fflam," meddai gohebydd BBC Cymru Kevin Leonard.

"Mae yma stryd fawr hir ac mae'r dorf yn sylweddol iawn."

Yn ôl Craig Duggan, gohebydd BBC Cymru oedd yn Y Trallwng, Hayley Lynch, 24 oed o Sir Henffrodd, oedd y person olaf i gludo'r Fflam yng Nghymru.

Hayley Lynch
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hayley Lynch wedi mynd heibio dyddiad geni ei babi ers tridiau ond yn benderfynol o gwblhau un o'r cymalau olaf yng Nghymru

"Mae hi'n feichioig, ac wedi mynd dros y dyddiau o rhyw dridiau," meddai.

"Dydi hi ddim yn disgwyl i'r babi gyrraedd yn ystod ei moment fawr, ond fe fydd yn cerdded dwbl yr hyd, 600 metr.

"Hi fydd yn gyfrifol am gludo'r Fflam olaf cyn iddi fynd dros y ffin i Sir Amwything."

Ychwanegodd Iolo ap Dafydd, gohebydd BBC Cymru sy'n teithio o flaen y Fflam, bod Ms Lynch yn "cerdded yn bwyllog a gofalus" gyda'i llaw ar ei bol.

"Ond mae'n cael croeso tywysogaidd yn Y Trallwng, gyda channoedd o blant ysgol allan yn chwifio baneri'r Ddraig Goch a baneri Cyngor Powys."

Un o enwogion Stoke fydd yn cario'r fflam yn ystod y dydd yw rheolwr tîm pêl-droed Stoke City, y Cymro Tony Pulis.

Yn ystod ei chwe diwrnod yng Nghymru, mae'r fflam wedi teithio dros dir, môr a mynydd ac ar gefn ceffyl yn ogystal.

Mae cannoedd o redwyr wedi ei chludo ar hyd Cymru benbaladr, gyda miloedd ar filoedd yn ei gwylio.

Dyma fydd deuddegfed diwrnod taith y fflam o gwmpas Prydain a fydd yn gorffen yn y Stadiwm Olympaidd yn Llundain ar gyfer Seremoni Agoriadol y Gemau ddiwedd Gorffennaf.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol