Aamir Siddiqi: Gwadu cysylltiad â diferyn o waed

  • Cyhoeddwyd
Aamir SiddiqiFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Aamir Siddiqi ei drywanu i farwolaeth ger drws ffrynt ei gartref

Mae dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio Aamir Siddiqi yng Nghaerdydd ddwy flynedd a hanner yn ôl wedi methu egluro sut y canfuwyd diferyn o waed y llanc 17 oed ar un o'i grysau.

Gwadodd Jason Richards, 38 oed, bod y gwaed ar ei ddillad am iddo drywanu Aamir yn ei gartref yng Nghaerdydd, a mynnodd nad oedd ganddo ran yn y drosedd.

Mae Mr Richards a Ben Hope, 39 oed, yn gwadu llofruddio Aamir Siddiqi, ac o geisio llofruddio ei rieni, yn Llys y Goron Abertawe.

'Dim ateb'

Wrth gael ei groesholi ddydd Iau, dywedodd Mr Richards wrth y llys: "Dydw i wir ddim yn gwybod sut y daeth gwaed Aamir Siddiqi i fod ar un o fy nillad.

"Roedd diferyn o waed arno - fedra i ddim rhoi ateb i chi sut y daeth i fod yno.

"Dydw i erioed wedi lladd neb yn fy mywyd, ac ni wnes i gyflawni'r llofruddiaeth yma," ychwanegodd.

Gofynnodd yr erlynydd Patrick Harrington QC sut oedd Mr Richards yn teimlo wrth glywed fod Ben Hope wedi ael ei arestio ac yn ei feio ef am yr ymosodiad.

Atebodd Mr Richards fod y peth yn "anghredadwy".

Wrth gyfeirio at y ffaith nad oedd Richards wedi dweud wrth yr heddlu yr hyn oedd yn dweud yn awr yn y llys, dywedodd Mr Harrington: "Yr hyn yr wyf yn awgrymu yw na wnaethoch chi ddweud eich stori bryd hynny am mai celwydd yw'r cyfan."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r erlyniad yn honni bod Jason Richards a Ben Hope wedi cael eu talu i ladd rhywun ond wedi mynd i'r tŷ anghywir

Esgidiau

Noddodd Mr Harrington hefyd bod Richards a Hope wedi newid eu hesgidiau yn ystod prynhawn y diwrnod dan sylw.

Gofynnodd i Mr Richards ym mhle'r oedd yr esgidiau yr oedd yn eu gwisgo ar fore Ebrill 11, 2010.

Atebodd Mr Richards: "Rwyf wedi gofyn i bobl chwilio amdanyn nhw. Dydw i ddim yn gwybod lle mae'r esgidiau yna."

Mynnodd Mr Richards yn gynharach bod Ben Hope wedi dychwelyd i'r tŷ gyda gwaed ar ei ddillad. Gofynnodd David Aubrey QC ar ran Mr Hope pam ei fod wedi gwirio tocyn loteri yn ystod y prynhawn ar ôl gweld Mr Hope gyda gwaed ar ei dillad.

Atebodd Mr Richards: "I mi roedd yn ddiwrnod cyffredin."

Dywedodd Mr Aubrey: "Doedd yn ddim byd tebyg i ddiwrnod cyffredin - daeth eich ffrind adre gyda gwaed drosto gan ddweud ei bod yn well os nad ydych yn gwybod beth sydd wedi digwydd."

Mae'r achos yn parhau.