'Doeddan nhw'm yn gwybod fod gan Gymru iaith ei hun'
- Cyhoeddwyd
"Os 'sa chi'n dod efo fi i gyfarfod o'r gymdeithas unrhyw adeg, wnewch fy nghlywed yn siarad am y grass-roots."
Am dros hanner can mlynedd mae Trefor Lloyd Hughes wedi bod yn un o hoelion wyth pêl-droed y gogledd, yn mynd o osod rhwydi a gwerthu tocynnau raffl i'w glwb lleol i fod ymysg prif weinyddwyr y gêm yng Nghymru.
Bu hefyd yn cynrychioli'r corff gweinyddol UEFA mewn nifer o gemau mawr Ewropeaidd, gan gynnwys ffeinal Cynghrair Ewropa yn 2014, fel cennad rhyngwladol.
Erbyn hyn yr un mor gyfforddus yn cyfarfod â rhai o brif sêr y bêl gron neu'n wylio gêm ar brynhawn Sadwrn glawog ym Modedern, mae wedi bod yn ddipyn o daith i'r cyn-yrrwr ambiwlans.
Mae hi bellach yn ddegawd ers iddo gael ei benodi i gyfnod o dair blynedd fel llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) - corff sy'n elwa o'r ton o lwyddiant a phoblogrwydd y gêm ymysg Cymry pen baladr.
Ffyniant pêl-droed ar lawr gwlad sy'n parhau i fynd â'i fryd, er yr holl edrych ymlaen at anturiaethau tîm Robert Page ym mhencampwriaeth Cwpan y Byd cyntaf Cymru ers 1958.
Tra'n llongyfarch y gymdeithas am yr ymdrechion i gryfhau'r defnydd o'r Gymraeg, dywedodd mai parhau i bwyso am fwy o fuddsoddiad mewn cyfleusterau llawr gwlad dylai gwaddol Qatar 2022 fod.
Cyn cymhwyso am Gwpan y Byd dywedodd Prif Weithredwr CBDC, Noel Mooney bod angen buddsoddiad o £300m mewn cyfleusterau ar lawr gwlad.
Yn sgil cyrraedd Qatar fe gyhoeddwyd byddai £4m yn ychwanegol yn mynd at gyfleusterau pêl-droed llawr gwlad, gan ddilyn buddsoddiad blaenorol o £3.2m rhwng 47 prosiect ar draws Cymru.
Ond dywedodd Mr Lloyd Hughes, llywydd y gymdeithas rhwng 2012 a 2015, bod angen parhau i fuddsoddi ym mhob haen o'r gêm er mwyn sicrhau ffyniant ar gyfer y dyfodol.
"Be' dwi yn poeni am ydi'r gwirfoddolwyr - lle 'dan ni am gael rheiny ar gyfer y dyfodol?" dywedodd wrth Cymru Fyw, gan nodi fod rhai o'r caeau yn "wael iawn" ar hyn o bryd.
"Mae [nifer y gwirfoddolwyr] yn mynd yn llai, ddim jyst mewn pêl-droed ond mewn llawer o beth, mae nhw'n mynd i lawr, i lawr, i lawr.
"Mae Noel Mooney 'di dod â dipyn [o arian] i fewn, ond dwi'n cwffio i gael lot mwy o arian i'r grass-roots.
"Os 'sa chi'n dod efo fi i gyfarfod y gymdeithas unrhyw adeg wnewch chi fy nghlywed yn siarad am y grass-roots.
"Mae [Noel Mooney] wedi dweud wrtha'i faint ydan ni'n gael, o gwmpas, am fynd i Qatar, faint o bosib gawn ni, a mae wedi dweud yn gyhoeddus mai yno fydd o'n mynd.
"Chwarae teg iddo, mae'n reit gartrefol i siarad efo a 'dan ni'n gwneud yn iawn, ond dwi yn pryderu efo'r arian 'ma."
O Fôn i Ffrainc
Gan ddechrau wrth helpu gyda chlwb Bodedern ar Ynys Môn dros hanner can mlynedd yn ôl a "gwneud pob dim o fod yn gadeirydd, chwaraewr, trysorydd, ysgrifennydd, marcio'r cae a rhoi'r nets i fyny", aeth ymlaen i fod yn Lywydd Cymdeithas Bel-Droed Cymru am gyfnod o dair blynedd rhwng 2012 a 2015.
Mewn cyfnod o newid mawr o fewn pêl-droed yng Nghymru - a welodd y tîm cenedlaethol yn cyrraedd rowndiau terfynol cystadleuaeth rhyngwladol am y tro cyntaf ers 1958 - dywedodd bod y newidiadau oddi fewn y gymdeithas dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhyfeddol.
"Pan ges fy mhenodi oedd o'n 'chydig bach o sioc i bawb dwi'n meddwl, ond dwi di trio gwneud fy ngora' i bawb," meddai.
"Pan ddois yn aelod o'r Orsedd [yn 2007] dwi'n cofio'r Archdderwydd yn dweud wrtha'i yna, 'Un peth dwisho chi wneud ydi mynd â'r Gymraeg fwy yn y gymdeithas' - a dwi'n gobeithio mod i wedi gwneud hynny hefyd.
"Dwi'n meddwl fod pobl tu allan y wlad wedi sylweddoli fod Cymru yn hollol wahanol i Brydain Fawr....dwi'n gweld hi fel gwlad ei hun."
Mae'n credu fod Ian Gwyn Hughes wedi gwneud "gwaith da" yn Cymreigio'r gymdeithas.
Ychwanegodd: "Mae Dafydd Iwan wedi bod yn aruthrol o dda, a mae pwy bynnag wnaeth gynnig i Dafydd ddod i fewn i'r stadiwm i ganu Yma o Hyd y noson yna - dwi'n meddwl mod i'n gwybod pwy - yn haeddu medal ar ben ei hun.
"Tra'n cynrychioli'ch gwlad mewn lle fel FIFA yn y Swistir, ac UEFA ac wedi bod yn delegate i'r rheiny yn mynd i wahanol gaeau, y peth cyntaf oedd yn dod o fy ngheg i oedd 'sut da chi?' neu 'bore da' neu 'p'nawn da'.
"Doeddan nhw methu dallt be oedd yn mynd ymlaen, a dyma fi'n dweud wrthyn nhw beth oedd... doeddan nhw ddim yn gw'bod fod gan Gymru iaith wahanol.
"Mae sefyllfa'r gymdeithas wedi newid yn hollol. Dwi'n cofio mynd fewn i swyddfa'r gymdeithas yn Westgate Street lle roedd 'na ond pump neu chwech yn gweithio yna. Mae 'na rŵan dros 100.
"Dwi'n cofio hefyd un swyddog a un o'r gymdeithas yn hel pres tocynnau yn y swyddfa ac yn ei roi mewn bag Tesco - fel'na oedd hi yr adeg hynny, ond mae pethau wedi newid a 'dan ni angen newid efo'r amser.
"Erbyn hyn mae'r gymdeithas yn fwy proffesiynol yn y ffordd mae'n rhedeg petha'.
"Ond dwi'n credu, yn fy nghyfnod fel llywydd, fy mod wedi rhoi sylfaen lle mae eraill wedi mynd â fo ymlaen wedyn. Heb y sylfaen yna mae'n ta-ta."
Nid oedd ei gyfnod gyda'r gymdeithas yn fêl i gyd, serch hynny. Roedd yn rhan o'r broses o benodi Chris Coleman fel rheolwr y tîm cenedlaethol yn dilyn marwolaeth annisgwyl Gary Speed yn Nhachwedd 2011.
"Ges i alwad ffôn yn dweud beth oedd wedi digwydd i Gary. Doeddwn methu coelio'r peth.
"Dyma fi'n ffonio'r swyddfa i weld os oedd o'n wir... oedd Gary a fi'n cael hwyl. Ges i sioc aruthrol."
Gan ddisgrifio'i hun fel "ffrind mawr" i Chris Coleman, dywedodd: "Dwi'n cofio Chris yn cael amser caled hefyd, ond genna'i feddwl y byd ohono."
Gobeithion Qatar
Er nad yw'n bwriadu teithio i Qatar, mae wedi bod i'r wlad ar gyfer buddugoliaeth i Gymru mewn gêm gyfeillgar yn 200. Mae Trefor Lloyd hughes yn ffyddiog y gall tîm Rob Page wneud argraff ar y gystadleuaeth.
"Mae 'na rwbath yn deud wrtha'i ers dipyn rŵan yr awn ni'n bell yn Qatar," meddai.
"Dwi'n gw'bod fod o'n bell mewn milltiroedd ond gobeithio awn ni i'r ffeinal.
"Rhaid ni fod yn resymol - mae'r lle yn boeth. Dyna pam tydw i dim yn mynd, achos fy iechyd - mae'n rhy boeth i mi, a'r amser teithio.
"Dwi'n licio'r ffordd mae [Page] isho chwara' - pwy sy'n gw'bod be sydd o'm blaenau?"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2015
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2015