Yr Wythnos Mewn Lluniau: 29 Ionawr - 4 Chwefror

  • Cyhoeddwyd

Dolffiniaid ar draeth, reslo braich a sêr y byd dartiau yn dod i Gaerdydd... dyma edrych yn ôl ar rai o luniau'r wythnos ar Cymru Fyw.

Cwch Mike HoltFfynhonnell y llun, Aled Roberts
Mike HoltFfynhonnell y llun, Michael Holt
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Michael Holt angen mynd â meddyginiaeth ar gyfer diabetes math 1 ar ei daith

Dyma Michael Holt o Borthmadog, dyn sy'n bwriadu rhwyfo 3,000 o filltiroedd ar draws Cefnfor yr Iwerydd o Gran Canaria yn Sbaen i Barbados. Mae gan Michael diabetes math 1 ac wedi pacio digonedd o fwyd a nwyddau ar gyfer y daith, yn ogystal â chist gyda'i holl feddyginiaeth ynddo. Mae Michael wedi penderfynu rhoi'r enw MYNADD ar ei gwch, gan y bydd angen llawer o amynedd i gwblhau'r her.

Sian Hughes a Carol Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dyma fydd y tro cyntaf i Sian Hughes (chwith) a Carol Jones (dde) gymryd rhan mewn cystadleuaeth

Dyma Sian Hughes a Carol Jones. Mi fydd y ddwy yn cystadlu yn nhwrnamaint rhanbarthol reslo braich Prydain, sydd yn cael ei gynnal ym mhentref Edern, Pen Llŷn, y penwythnos yma.

Chwaraewr wrecsam a blackburn

Mae Wrecsam allan o gwpan FA Lloegr ar ôl cael eu curo gan Blackburn Rovers yn y bedwaredd rownd. Colli fu hanes Wrecsam o 4-1 yn erbyn Blackburn Rovers yn Ewood Park ddydd Llun.

Cyfathrebu gyda'r gwirfoddolwyr sydd allan dros y radioFfynhonnell y llun, SOS Extreme Rescues

Dyma Dave Williams, un o gyfranwyr y gyfres SOS: Extreme Rescues, wrth ei waith gyda thîm chwilio ac achub Aberdyfi. Mae Dave wedi bod yn gwirfoddoli ac yn achub bywydau ers hanner canrif.

Tyrbin gwynt ar dânFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Bu'n rhaid i'r Gwasanaeth Tân ymateb ar ôl i dyrbin gwynt fynd ar dân yn Sir Gaerfyrddin ddydd Sul. Roedd rhannau o'r tyrbin ar Fferm Wynt Blaen Bowi ger Castellnewydd Emlyn i'w gweld yn disgyn i'r ddaear.

Mari yn yr ysbytyFfynhonnell y llun, Mari Grug

Dyma'r cyflwynydd Mari Grug yn mynychu sesiwn o driniaeth chemotherapy ar gyfer canser y fron. Mewn sgwrs arbennig gyda Cymru Fyw, bu Mari'n rhannu ei gobeithion ar gyfer y dyfodol a'r camau nesaf yn ei thriniaeth.

Chwaraewyr dartiauFfynhonnell y llun, Getty Images

Daeth chwaraewyr dartiau gorau'r byd i Gaerdydd nos Iau - ac yn eu plith y llanc ifanc a ddaeth yn seren dros nos... Luke Littler. Dyma (o'r dde i'r chwith) Peter Wright, Rob Cross, Nathan Aspinal, Luke Humphries, Michael van Gerwen, Michael Smith, Gerwyn Price a Luke Littler yn sefyll i gael llun mewn digwyddiad i'r wasg yn Stadiwm y Principality.

dolffiniaidFfynhonnell y llun, Gwylwyr y Glannau Bae Cemaes

Cafodd chwech o ddolffiniaid eu canfod ar draeth ger Y Fali, Caergybi ar Ynys Môn fore Mercher. Fe lwyddodd achubwyr i'w rhoi yn ôl yn y dŵr wrth i'r llanw ddod i mewn ac fe achubwyd pump ohonynt, ond yn anffodus fe gafodd corff un dolffin ei ganfod yn farw ar y lan y bore canlynol.

Pont newydd dros yr Afon DyfiFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Pont newydd dros yr Afon Dyfi

Mae pont newydd ar ffordd allweddol rhwng de a gogledd Cymru yn agor wedi tair blynedd o waith adeiladu. Mae'r bont ar yr A487 dros Afon Dyfi ger Machynlleth wedi costio £46m a'r gobaith yw y bydd yn lleihau problemau llifogydd cyson ar bont bresennol Pont-ar-Ddyfi.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig