Chwe mis o garchar wedi'i ohirio i Huw Edwards
- Cyhoeddwyd
Mae Huw Edwards wedi cael dedfryd o chwe mis o garchar wedi ei ohirio am ddwy flynedd am greu delweddau anweddus o blant.
Roedd y cyn-gyflwynydd 63 oed wedi pleidio'n euog i dri chyhuddiad o greu delweddau anweddus o blant.
Bydd Edwards felly yn osgoi cyfnod dan glo, ond fe allai wynebu cyfnod o chwe mis yn y carchar pe bai'n aildroseddu o fewn y ddwy flynedd nesaf.
Ym mis Gorffennaf, clywodd Llys Ynadon Westminster ei fod wedi derbyn cannoedd o luniau o natur rywiol ar WhatsApp gan ddyn arall dros gyfnod o bron i 18 mis, gan gynnwys 41 o luniau anweddus o blant.
Roedd y delweddau'n cynnwys saith o'r categori mwyaf difrifol - categori A - gan gynnwys dau oedd yn dangos plentyn rhwng tua saith a naw oed.
Roedd 12 o'r lluniau yng nghategori B a 22 yng nghategori C.
Clywodd y llys bod y lluniau yn y ddau gategori yna o blant rhwng 12 a 15 oed.
Dywedodd bargyfreithiwr ar ran Huw Edwards fore Llun ei fod yn "edifar yn ofnadwy" am gyflawni'r troseddau ac am y ffordd y mae o wedi "achosi niwed i'w deulu".
Wrth nodi'r ddedfryd, dywedodd y Prif Ynad Paul Goldspring nad oedd Edwards yn peri risg i'r cyhoedd, ac o ganlyniad doedd cyfnod dan glo ddim yn angenrheidiol.
Yn ogystal â'r ddedfryd o chwe mis o garchar wedi ei ohirio, bydd yn rhaid i Edwards gwblhau sesiynau adsefydlu ar gyfer troseddwyr rhyw, fydd yn cael eu goruchwylio gan y Gwasanaeth Prawf.
Fe fydd Edwards hefyd yn cael ei gynnwys ar y gofrestr troseddwyr rhyw am gyfnod o saith mlynedd.
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd10 Medi 2024
Clywodd Llys Ynadon Westminster fod Huw Edwards yn "cydnabod ei fod wedi bradychu ffydd ac ymddiriedaeth amhrisiadwy cymaint o bobl".
Dywedodd yr amddiffyniad fod Edwards eisiau ymddiheuro, a'i fod yn edifar yn ofnadwy am yr hyn mae wedi ei wneud.
"Mae [Edwards] yn cydnabod natur erchyll y lluniau anweddus yma, a hoffai ymddiheuro am y boen a gafodd ei achosi i'r rhai sy'n ymddangos yn y lluniau hynny," meddai Phillip Evans KC.
Ychwanegodd: "Mae'n deall ei fod wedi brifo ac wedi achosi niwed i'w deulu a'r bobl y mae'n eu caru - ac am hynny, ac am gyflawni'r troseddau hyn, mae'n ymddiheuro o waelod calon."
Clywodd y llys fore Llun bod Edwards wedi bod yn rhan o sgwrs ar WhatsApp o fis Rhagfyr 2020 gyda phedoffeil o'r enw Alex Williams.
Dywedodd yr erlyniad fod Edwards wedi ymateb yn dweud "go on" ar ôl i Williams holi a oedd o am dderbyn "lluniau a fideos drwg" o rywun oedd yn cael eu disgrifio'n "ifanc".
Nodwyd hefyd bod Edwards wedi talu cannoedd o bunnau i Williams ar ôl iddo anfon y lluniau, er i'r amddiffyn ddadlau nad oedd y taliadau unrhyw beth i'w wneud â'r delweddau.
Fe wnaeth yr erlyniad dynnu sylw at un neges yn benodol lle'r oedd Williams wedi gofyn am "anrheg Nadolig ar ôl yr holl fideos hot".
"Dywedodd Alex Williams ei fod eisiau esgidiau Air Force 1 sy'n costio tua £100, ac mae Mr Edwards wedyn yn cynnig anfon £200 iddo," meddai Ian Hope KC.
Edwards mewn cyflwr 'bregus'
Dywedodd Phillip Evans KC, ar ran yr amddiffyniad, nad oedd Edwards wedi talu Williams am unrhyw luniau anweddus o blant, a'i fod wedi dweud yn glir wrtho nad oedd am dderbyn unrhyw luniau o bobl dan oed.
"Dydi o [Edwards] heb storio'r lluniau hyn ar unrhyw ddyfais," meddai.
"Dydi o heb eu defnyddio i gael unrhyw bleser personol... dydi o heb eu hanfon i unrhyw un arall na chwaith wedi chwilio am ddelweddau tebyg yn unrhyw le arall."
Ychwanegodd fod Edwards mewn cyflwr "bregus" pan gysylltodd Alex Williams am y tro cyntaf.
Dywedodd y Prif Ynad fod enw da Huw Edwards bellach "yn deilchion".
Esboniodd Paul Goldspring ei fod yn derbyn y ffaith fod tystiolaeth yn awgrymu nad oedd Edwards yn cofio pa luniau yr oedd o wedi eu gweld oherwydd ei gyflwr meddyliol ar y pryd.
Roedd arbenigwr hefyd wedi nodi fod Edwards yn wynebu "storm berffaith" pan gafodd y troseddau eu cyflawni, a'i fod wedi troi at berthnasau ar-lein yn ystod cyfnod anodd iawn yn ei fywyd.
Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron fod y ddedfryd yma yn dangos yn glir eu bod yn gweithio gyda'r heddlu i ddwyn unrhyw un sy'n ceisio cymryd mantais o blant i gyfrif.
Dywedodd llefarydd ar ran y BBC eu bod wedi eu "ffieiddio gan droseddau" Edwards.
"Mae o wedi bradychu, nid yn unig y BBC, ond y cynulleidfaoedd oedd yn ymddiried ynddo," meddai'r gorfforaeth mewn datganiad.
Beth yw'r cefndir?
Yn dilyn yr achos, mae'r BBC wedi wynebu nifer o gwestiynau ynglŷn â'r modd y bu'n delio ag achos Edwards.
Roedd rhai o uwch reolwyr y gorfforaeth wedi cael gwybod bod Edwards wedi'i arestio ym mis Tachwedd y llynedd, ac yn ymwybodol o natur ddifrifol y troseddau oedd dan sylw.
Ond fe barhaodd i dderbyn ei gyflog ar ôl cael ei arestio tan iddo ymddiswyddo o'r BBC ym mis Ebrill eleni "ar sail cyngor meddygol".
Cadarnhaodd y BBC fis diwethaf eu bod nhw wedi gofyn i Edwards i ad-dalu £200,000, sy'n cyfateb i'r cyflog dderbyniodd yn y pum mis dan sylw.
Dywedodd y cyfarwyddwr cyffredinol Tim Davie wrth un o bwyllgorau Tŷ'r Arglwyddi yr wythnos ddiwethaf nad oedd yr arian wedi'i ddychwelyd hyd yn hyn, a bod "trafodaethau yn parhau" am y posibilrwydd o gael yr arian yn ôl.
Yn ystod yr un cyfarfod, dywedodd cadeirydd y BBC, Samir Shah, bod y cyn-gyflwynydd wedi "ymddwyn yn anonest" wrth barhau i gymryd ei gyflog.
Roedd y BBC wedi dechrau ymchwiliad mewnol i ymddygiad Huw Edwards ar ôl honiadau ym mhapur newydd The Sun ym mis Gorffennaf 2023 ei fod wedi bod yn talu arian i berson ifanc am ddelweddau o natur rywiol.
Dywedodd yr heddlu nad oedd unrhyw dystiolaeth bod trosedd wedi'i chyflawni.
Dechreuodd y BBC ymchwiliad mewnol yn dilyn honiadau'r Sun, ac ar ôl derbyn honiadau eraill ynglŷn ag ymddygiad Huw Edwards.
Dyw casgliadau'r ymchwiliad hwnnw ddim wedi'u cyhoeddi.
Dyw'r achos llys ddim yn gysylltiedig â'r honiadau ymddangosodd yn The Sun y llynedd.
Colli anrhydeddau
Mae Huw Edwards wedi colli nifer o anrhydeddau yng Nghymru ers yr achos llys fis Gorffennaf.
Cafodd ei ddiarddel o Orsedd Cymru yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol fis Awst.
Dywedodd Prifysgol Abertawe a'r Coleg Cerdd a Drama Brenhinol eu bod wedi diddymu cymrodoriaethau er anrhydedd roedd wedi'u derbyn.
Cyhoeddodd Prifysgol Caerdydd bod Edwards wedi ymddiswyddo o'i ddwy rôl er anrhydedd yn y brifysgol honno - dyw e ddim bellach yn athro er anrhydedd nac yn gymrawd er anrhydedd.