Sgandal Swyddfa'r Post: Alan Bates yn cytuno ar setliad

Syr Alan BatesFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Ni chafodd Syr Alan Bates ei erlyn gan Swyddfa'r Post yn bersonol, ond aeth ati i ganfod beth oedd yn achosi i gyfrifon is-bostfeistri nodi colledion ariannol ac yna i ymgyrchu am gyfiawnder i'r bobl a gafodd eu herlyn ar gam

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-is-bostfeistr yn y gogledd a arweiniodd yr ymgyrch am gyfiawnder i ddioddefwyr sgandal Swyddfa'r Post wedi cytuno ar setliad ariannol gan Lywodraeth y DU.

Syr Alan Bates, oedd yn rhedeg Swyddfa'r Post Craig-y-Don yn Llandudno, oedd arweinydd 555 o is-bostfeistri a fu'n rhan o frwydr hir i adfer eu henw da wedi i nam cyfrifiadurol arwain at erlyn a charcharu unigolion ar gam.

Dydy'r swm y mae Syr Alan wedi cytuno arno heb ei ddatgelu.

Rhwng 1999 a 2015, fe gafodd dros 900 o is-bostfeistri eu herlyn ar gam wedi i system gyfrifiadurol Horizon awgrymu bylchau ariannol yng nghyfrifon canghennau.

Noel ThomasFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Noel Thomas ei garcharu am naw mis yn 2006 ar ôl i £48,000 fynd ar goll o'i gyfrifon

Roedd is-bostfeistri o Gymru ymhlith y rhai a gafodd eu carcharu, ac fe wnaeth eraill ddefnyddio symiau mawr o'u cynilion personol i lenwi'r bylchau ac osgoi cael eu herlyn.

Fe gafodd euogfarnau yn erbyn Noel Thomas o'r Gaerwen a 38 o is-bostfestri eraill eu gwyrdroi yn y Llys Apêl yn 2021.

Fe gafodd Syr Alan ei bortreadu gan yr actor Toby Jones yn y ddrama gyfres Mr Bates v The Post Office a ddaeth â'r sgandal i gynulleidfa newydd gan gipio sawl gwobr.

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Busnes a Masnach y llywodraeth yn San Steffan: "Rydym yn talu teyrnged i Syr Alan Bates am ei record hir o ymgyrchu ar ran dioddefwyr.

"Gallwn ni gadarnhau bod cais Syr Alan wedi dod i ddiwedd proses y cynllun [iawndal] ac wedi ei setlo."

Ychwanegodd bod yr adran erbyn hyn wedi talu "dros £1.2bn i dros 9,000 o ddioddefwyr" ar draws y DU.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Straeon perthnasol