'Sioc a galar' wedi marwolaeth dyn lleol yn Llanpumsaint
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn chwilio am yrrwr car wedi i ddyn lleol gael ei ladd mewn gwrthdrawiad yn Sir Gaerfyrddin nos Lun.
Mae'r dyn a fu farw wedi'r digwyddiad ym mhentref Llanpumsaint wedi'i enwi'n lleol fel Arron Jones, oedd yn ei 30au ac yn dad i ddau o blant.
Roedd yn mynd â'i gi am dro pan gafodd ei daro gan gar glas.
Fe yrrodd y gyrrwr o'r safle heb gysylltu â'r heddlu, sy'n dweud y bydd difrod sylweddol wedi ei achosi i'r car.
Mae yna gryn sioc yn yr ardal yn dilyn y digwyddiad, medd y cynghorydd lleol, Bryan Davies.