Sioc yn ardal Abertawe wedi ffrwydrad ger caeau chwarae

Cafodd pobl ym Mhenlle'r-gaer yn ardal Abertawe sioc ddydd Sul yn dilyn ffrwydrad ger caeau chwarae yn y pentref.

Y gred yw mai offer trydanol sy'n gyfrifol am y digwyddiad, a greodd fflamau oren a chlec fawr.

Mae National Grid wedi cael cais am sylw.