National Theatre Wales yn 'anwybyddu artistiaid Cymru'

Mae 40 o ysgrifenwyr a dramodwyr wedi gyrru llythyr at National Theatre Wales yn galw am newidiadau radical, gan gyhuddo'r sefydliad o "danseilio artistiaid Cymru".

Yn y llythyr at y cadeirydd Clive Jones, mae'r ysgrifenwyr yn dweud bod y cwmni yn "rhwystr" i lwyddiant dramodwyr o Gymru.

Dywedodd un sydd wedi arwyddo'r llythyr, y dramodydd Gary Owen, bod y sefydliad yn "anwybyddu artistiaid yng Nghymru".

Ond mae National Theatre Wales wedi mynnu bod y llythyr yn "ffeithiol anghywir".