Jane Dodds: Atgasedd protestwyr yn brofiad 'ofnadwy'
Dridiau wedi llofruddiaeth yr AS Ceidwadol Syr David Amess, mae'r drafodaeth yn parhau ynghylch sut dylid amddiffyn gwleidyddion wrth iddyn nhw fynd o gwmpas eu gwaith bob dydd.
Un posibilrwydd yw cyflwyno mesurau diogelwch tynnach pan fo cynrychiolwyr yn eu hetholaethau, ond mae yna bryder y byddai hynny'n arwain at golli cyfleoedd i wasanaethu etholwyr wyneb yn wyneb.
O ddydd Mawrth ymlaen, bydd ASau Senedd Cymru'n cael eu cynghori ar gynyddu diogelwch yn eu cymorthfeydd.
Mae'r AS Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, wedi profi atgasedd gan brotestwyr yn ddiweddar.