Elved Vicente Evans o Batagonia wedi marw
Mae Elved Vicente Evans, y gaucho o Batagonia, wedi marw yn 96 oed.
Roedd yn aelod brwdfrydig o'r gymuned Gymraeg yno, ac yn "un o'r olaf oedd yn siarad yr hen Gymraeg Batagonaidd yn yr ardal".
Ganwyd ym 1928 ar y fferm deuluol yng Nghwm Hyfryd ar droed yr Andes.
Fe weithiodd fel ffermwr drwy gydol ei oes gan gynnal traddodiad y gaucho - yn gofalu am ei wartheg ar gefn ei geffyl.
Fe ddaeth ar ei ymweliad cyntaf â Chymru nôl yn 2009 pan oedd yn 80 oed.
Cafodd y clip uchod ei ffilmio yn ystod ei ymweliad â'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth fel rhan o'r daith honno.