Deddf newydd yn help i 'symud ymlaen' medd gwraig weddw

Mae gwraig dyn fu farw ar ôl cael gofal iechyd mewn ysbyty preifat a gan y gwasanaeth iechyd yn dweud y byddai'n "siomedig" os na fydd deddf newydd i ehangu pwerau'r Ombwdsmon yn dod i rym.

Roedd Peter Lewis wedi cael llawdriniaeth ar ei ben-glin mewn ysbyty preifat yn 2010, ond pan waethygodd ei gyflwr fe aeth i ysbyty arall oedd yn cael ei redeg gan y gwasanaeth iechyd, a bu farw'n ddiweddarach.

Roedd ei weddw, Ruth eisiau cwyno i'r Ombwdsmon, ond doedd dim modd i Nick Bennett ymchwilio i gwynion gan gleifion ysbytai a chlinigau preifat oni bai bod y driniaeth wedi'i ariannu gan GIG.

Cafodd yr achos ei ddefnyddio i danlinellu'r angen am ddeddfwriaeth newydd er mwyn cryfhau hawliau cleifion sy'n derbyn triniaeth breifat yng Nghymru.