Tanau gwair bwriadol: Tywydd poeth yn ffactor
Mae penaethiaid y gwasanaeth tân wedi mynegi siom wedi i'r ffigyrau diweddaraf amlygu cynnydd aruthrol yn nifer y tanau gwair yng Nghymru y llynedd, a'r ffaith bod cynifer wedi eu cynnau yn fwriadol.
Roedd haf sych a phoeth y llynedd hefyd yn un ffactor.
Fel rhan o'r ymdrechion i fynd i'r afael â'r broblem, mae'r rhaglen addysgol Dawns Glaw yn cydweithio â mudiadau ieuenctid ac amaethyddol, ac mae wedi trefnu 60,000 o gyflwyniadau i ddisgyblion ysgol ers 2016.
Mydrian Harries yw cadeirydd Ymgyrch Dawns Glaw.