'Dal ati' i ddysgu Cymraeg

Paul Huckstep, yw un o'r pedwar sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst eleni.

Saith mlynedd yn ôl roedd yn byw yn ne Lloegr ond erbyn hyn mae'n rhoi gwersi Cymraeg i oedolion yn y pentref lle mae ymgartrefu, Penmachno.

Ei gyngor o i eraill sydd yn dysgu'r iaith yw i "ddal ati".