Seren rygbi'n arwain ymgyrch i ddysgu sgiliau achub bywyd
Yn ôl yr ystadegau diweddaraf mae dros 6,000 o bobl yng Nghymru yn cael ataliad y galon bob blwyddyn.
Mae 80% o'r achosion yma yn digwydd yn y cartref, ond yn ôl arolwg diweddar dim ond hanner y boblogaeth fyddai'n gwybod beth i'w wneud petai rhywun yn cael ataliad.
Oherwydd hynny mae 'na ymgyrch newydd wedi'i lansio gan Achub Bywyd Cymru - Cofiwch, mae help wrth law - sy'n cael ei arwain gan gyn-seren tîm rygbi Cymru, Shane Williams.
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast fore Gwener dywedodd Williams, pan oedd yn ifanc, fod ffrind iddo wedi marw ar ôl cael ataliad ar y galon ar y cae ymarfer.
"Ti'n clywed storis trwy'r amser am bobl yn mynd yn dost neu'n marw" mewn sefyllfaoedd o'r fath, meddai.
Dywedodd mai ei obaith yw "helpu i roi sylw i sut i berfformio CPR a defnyddio defibrillator" a "rhoi bach fwy o hyder i bobl helpu".
Ychwanegodd fod dysgu CPR i bobl yn bwysig, ond ei bod yn allweddol hefyd i roi'r hyder i bobl ei ddefnyddio pan fo'i angen, yn hytrach na "gadael e i rywun arall".