Huw Fash: 'Chi'n dod i arfer gyda pheidio teimlo'n 100%'

A hithau'n Ddiwrnod Aren y Byd ddydd Iau, mae'r ffigyrau diweddaraf yn awgrymu fod gan dros dair miliwn o bobl ym Mhrydain afiechyd cronig ar yr aren, ond dyw llawer ddim yn ymwybodol oherwydd nad yw'r symptomau'n amlwg.

Yng Nghymru mae tua 1,400 o oedolion yn dibynnu ar ddialysis, tra bod yna 100 o lawdriniaethau aren newydd bob blwyddyn.

Un sydd wedi dioddef ers rhai blynyddoedd gyda phroblem ar yr aren ydy'r cyflwynydd a'r sylwebydd ffasiwn Huw Rees - neu Huw Fash fel mae'n cael ei adnabod.

Cafodd ei gymryd i'r ysbyty yn 2019 ag yntau mewn poen, ond bryd hynny fe sylweddolodd fod problemau gyda'i aren wedi bod yn ei boenydio ers cyfnod hir.

"Chi'n dod i arfer gyda pheidio teimlo'n 100%," meddai ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Iau.

Cafodd lawdriniaeth 'nôl yn 2019 i lanhau'r arennau, ac un arall bum wythnos yn ôl, a dywedodd ei fod yn "gwneud tipyn yn well" ar hyn o bryd.

Mae'r llawdriniaethau, a diet iach, yn golygu nad oes yn rhaid iddo fod ar ddialysis, a does dim awgrym hyd yma y bydd angen aren newydd arno chwaith.