'Gemau'r Ynysoedd mwyaf llwyddiannus i Fôn erioed'

Mae cydlynydd tîm athletau Môn yn dweud mai Guernsey 2023 fydd eu Gemau'r Ynysoedd mwyaf llwyddiannus ers ei hanfod yn 1985.

Eisoes wedi ennill 13 medal wrth fynd fewn i ddiwrnod olaf y gemau mae Môn yn barod wedi chwalu'r cyfanswm o chwe medal a'i henillwyd yng ngemau Gibraltar 2019.

Ond gyda mwy o fedalau yn sicr o ddod ddydd Gwener, mae'r ysbryd ymysg y garfan o 120 yn uchel.

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast dywedodd Barry Edwards: "Mae'r gemau yn mynd yn anhygoel, hefo'r medalau sy'n dod drwodd rŵan hwn fydd y gemau fwya' llwyddiannus i'r ynys ers i'r gemau ddechrau yn 1985.

"Mae'r talent sy'n dod drwodd yn anhygoel".

Mae Cari Hughes o Lanfechell wedi ennill un o'r 13 medal drwy sicrhau arian yn y ras 1,500, ond bydd hefyd yn cystadlu yn y ras cyfnewid 4x400m a'r 800m ddydd Gwener.

"Mae'r timau wedi gwneud yn wych, mae'n grêt i fod yn part o rhywbeth, dwi wedi joio a dyma fy nhro cyntaf," meddai.

"Mae wedi bod yn grêt."

Mae ei brawd, Iolo, wedi ennill y fedal aur yn y ras 1,500m ac yn gobeithio am fwy yn yr 800m a'r ras gyfnewid 4x400m.

"'Da ni'n mynd ar y podiwm a canu'r anthem. Mae'n grêt i glywed yr anthem a pawb yn canu. Mae'n anhygoel."