Arweinyddiaeth Llafur: Pwy yw Mark Drakeford?
- Cyhoeddwyd
Gyda disgwyl i Vaughan Gething ddod yn brif weinidog nesaf Cymru ar ôl iddo ennill etholiad arweinyddiaeth Llafur, dyma gipolwg ar fywyd a gyrfa ei ragflaenydd, Mark Drakeford - fydd yn ymddiswyddo ar ôl ei sesiwn gwestiynau i'r Prif Weinidog olaf brynhawn Mawrth.
Mae'n debyg bod canfod ei hun yn arweinydd ei blaid ac yn brif weinidog ar Gymru wedi bod yn gymaint o syndod i Mark Drakeford ag i'r bobl sydd wedi ei adnabod dros y blynyddoedd.
Mewn byd o wleidyddion ac arweinwyr lliwgar ac uchel eu cloch, mae Mark Drakeford yn cael ei ddisgrifio fel dyn tawel, gwylaidd, gofalus, ond sicr o'i hun serch hynny.
Pan olynodd Carwyn Jones fel arweinydd Llafur yng Nghymru yn 2018 fyddai o na neb arall wedi gallu rhagweld y byddai'n cael mwy o blatfform nag, o bosib, unrhyw brif weinidog o'i flaen yng Nghymru yn sgil y pandemig.
Wedi'i eni a'i fagu yng Nghaerfyrddin, yn fab i athro di-Gymraeg a merch fferm rhugl ei Chymraeg, roedd yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg y Frenhines Elisabeth i Fechgyn yn y saithdegau.
Un o'i ffrindiau pennaf ers y dyddiau hynny oedd y cyn-Aelod Cynulliad, Richard Edwards oedd yn rhannu'r un daliadau gwleidyddol a'r un pynciau lefel A - Saesneg, Hanes a Lladin.
Mae'n cofio nhw'n treulio p'nawniau ar y traeth yn Amroth, Sir Benfro - "hoff le yn y byd" Mark Drakeford - yn gwrando ar y criced ar y radio ac ymweliadau i fferm y teulu yn San Clêr.
"Yn yr ysgol roedden ni'n trafod gwleidyddiaeth yn frwd," meddai.
Roedd Caerfyrddin yr adeg honno yng nghanol y bwrlwm gwleidyddol wedi i Gwynfor Evans ennill sedd gyntaf Plaid Cymru yno yn 1966.
Roedd Mark Drakeford yn 11 mlwydd oed bryd hynny ond chafodd o mo'i swyno gan y blaid genedlaethol. Penderfynodd ei fod yn sosialydd gan ymuno â'r blaid Lafur pan oedd yn 18 oed.
Doedd dim un digwyddiad na pherson wnaeth ei arwain at y blaid Lafur meddai Richard, dim ond "y ffocws ar bobl, anghydraddoldeb ac anghyfiawnder, doedd ganddo ddim diddordeb mewn cysyniadau abstract am genedligrwydd."
Y dref a'r wlad
Roedd dwy garfan yng Nghaerfyrddin meddai Richard Edwards; y rhai oedd yn byw tu allan i'r dref oedd yn cael eu gweld fel pobl wledig, geidwadol a Chymraeg eu hiaith a'r rheiny oedd yn byw yn y dref, yn siarad Saesneg ac yn ystyried eu hunain yn fwy cosmopolitaidd.
I'r ail garfan, y townies, roedd Mark Drakeford yn perthyn, meddai.
Saesneg oedd iaith yr aelwyd a bratiog fyddai ei Gymraeg meddai Richard Edwards, ond fe ddysgodd yr iaith yn rhugl fel oedolyn gyda phenderfyniad sy'n nodweddiadol ohono.
"Dwi'n gwybod bod ei fam yn siarad Cymraeg, ond glywes i erioed mohono fe'n siarad Cymraeg," meddai'r cyn-newyddiadurwr a'r cynghorydd Alun Lenny oedd hefyd yn astudio Saesneg gyda nhw yn y chweched dosbarth.
"Gan mod i heb ei weld e mewn person ers gadael yr ysgol y part gorau o 50 mlynedd yn ôl, o'dd hi'n brofiad rhyfedd i fi ei weld e ar y teledu yn siarad Cymraeg yn rhugl!
"Roedd e'n berson digon tawel - ond deallus mae'n amlwg. Nid mod i'n ei adnabod e'n dda iawn, ond fydden ni byth yn dychmygu pryd hynny y bydde fe'n brif weinidog Cymru.
"Oedd e ddim yn ymwneud â phethe Cymraeg a Chymreig yn yr ysgol felly yn sicr fydde fe ddim yn rhywun fydde yng nghanol ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith neu Blaid Cymru neu ar ochr cenedlaetholdeb.
"Wrth edrych nôl dros 50 mlynedd ar beth o'n i'n tybio oedd ei dueddiadau fe a'i agweddau e bryd hynny, dwi'n gweld eironi mawr yn y ffaith bod e nawr yn brif weinidog ar Gymru ddatganoledig."
Delio gyda 'ffyrnigrwydd galar'
Wedi graddio o brifysgolion Caint a Chaerwysg aeth i weithio gyda'r gwasanaeth prawf yng Nghaerdydd yn 1979 yna ym maes cyfiawnder cymdeithasol ac elusen Barnardos.
Sbardunodd y profiadau yma iddo ddod yn gynghorydd ar yr hen Gyngor De Morgannwg yn 1985.
Fe wnaeth ef a'i wraig Clare ymgartrefu ym Mhontcanna, Caerdydd, a mabwysiadu teulu o dri o blant bach sydd bellach yn oedolion.
Yn 2018 aeth y teulu drwy gyfnod poenus pan gafodd un o'i feibion ei garcharu am drais: clywodd y llys ei fod yn awtistig a chanddo IQ isel.
Ac ym mis Ionawr 2023, bu farw Clare yn sydyn yn 71 oed.
Mewn cyfweliad rai misoedd yn ddiweddarach, dywedodd ei fod yn "hollol amharod ar gyfer ffyrnigrwydd y galar".
"Mae bod mewn gwaith wedi bod yn gynhaliol, mae'n rhoi rhywbeth i chi ei wneud, mae'n rhoi rhythm i'r wythnos i chi, mae'n tynnu sylw oddi wrth yr hyn sydd fel arall yn brofiad hollol ddiflas," meddai.
Ychwanegodd: "Unwaith y bydd y pwnc hwnnw wedi'i agor mae'n anodd iawn cadw [yr emosiwn] dan reolaeth".
Y darlithydd tu ôl i'r podiwm
Ar ôl ymuno â'r byd academaidd yn y 1990au fel darlithydd mewn astudiaethau cymdeithasol, dringodd i swydd Athro yn adran Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd.
"Roedd i raddau helaeth fel mae'n ymddangos i mi heddiw ar y sgrin, dyn tawel, effeithiol iawn," meddai pennaeth presennol yr ysgol, yr Athro Tom Hall.
"Roedd yn athro gwych, mewn ffordd ychydig yn anghonfensiynol neu hen ffasiwn efallai. Byddai wastad yn siarad o ychydig iawn o nodiadau."
Roedd yn gallu cyfleu rhai o gymhlethdodau polisi cymdeithasol mewn iaith syml, meddai, ac yn cael adborth da gan y myfyrwyr.
"Pryd bynnag rwy'n ei weld yn rhoi brîff ar y teledu y dyddiau yma rwy'n meddwl, 'mae'n union fel roedd o pan oedd yn ddarlithydd'."
Doedd hi ddim yn syndod i'r Athro Hall iddo symud o yrfa academaidd i fod yn fwy gweithgar mewn gwleidyddiaeth ond mater gwahanol oedd camu i sgidiau arweinydd.
"Iddo ddod yn brif weinidog, ydw, rydw i'n synnu yn yr ystyr nad oedd erioed yn ymddangos fel rhywun oedd yn awchu am y math yna o rôl," meddai.
Pan gymerodd le Rhodri Morgan fel Aelod Cynulliad Gorllewin Caerdydd yn 2011, roedd ei ddylanwad eisoes yn drwm ar bolisïau Llafur Cymru ac yntau wedi bod yn ymgynghorydd arbennig i'r cyn-brif weinidog ers y 1990au.
"Os ydych chi'n ymgynghorydd arbennig mae gennych chi ddylanwad enfawr ar beth allwch chi ei wneud yn y blaid," meddai Jane Hutt sy'n ei adnabod ers 35 mlynedd fel cyfaill, cyd-gynghorydd sir ac fel gweinidog iechyd oedd yn cael ei chynghori ganddo cyn iddo symud at Rhodri Morgan.
"Roedd yn allweddol yn amser Rhodri Morgan yng nghyfeiriad gwleidyddol y clear red water - does dim ond angen i chi ddarllen llyfr Rhodri Morgan i weld dylanwad Mark Drakeford."
I Drakeford y priodolir araith enwog Rhodri Morgan yn 2002 ynglŷn â'r 'dŵr coch clir' rhwng Llafur Llundain a Llafur yng Nghymru.
"Pan roedd yn ymgynghorydd arbennig i mi, fe fyddai gan Mark bob amser set glir o opsiynau neu gyngor clir ynglŷn a sut i ymateb i sefyllfa anodd," meddai Jane Hutt
Roedd hi'n un o'r rhai wnaeth ei berswadio a'i gefnogi i olynu Carwyn Jones.
"Y peth am Mark ydi bod ganddo farn wleidyddol gref, barn sosialaidd gref, mae'n ymarferol iawn am sut i gyflwyno eich gwleidyddiaeth."
Mae'n "unigolyn sicr o'i hun", meddai, yn ddeallus a chadarn ei benderfyniad ond gwylaidd yr un pryd.
"Mae rhai pobl wedi cael y syniad anghywir amdano fel rhyw fath o ddyn llwyd, di-liw ond nid dyna'r gwir o gwbl," meddai Richard Edwards.
"Mae ei synnwyr digrifwch yn ymylu ar yr absẃrd a'r hurt... gwrth-sefydliadol hyd yn oed."
Mae ei gyfaill yn ei ddisgrifio fel rhywun pwyllog sydd ddim eisiau bod yn "show off".
"Roedd ganddo amheuon mawr am fynd am yr arweinyddiaeth yn y lle cyntaf, nid am nad oedd yn teimlo bod ganddo rhywbeth i'w gynnig ond oherwydd nad yw'n mwynhau bod yn llygad y cyhoedd.
"Doedd e ddim ar dân i fod yn brif weinidog."
Prif Weinidog y pandemig
Heb os fe dyfodd statws Mark Drakeford yn aruthrol yn sgil lledaeniad Covid-19.
Yn ystod y pandemig, y Prif Weinidog oedd yn gyfrifol am gyflwyno rheolau Covid yng Nghymru - gyda'i lywodraeth yn gyfrifol am y gwasanaeth iechyd, addysg a chynghorau.
Wrth roi tystiolaeth fel rhan o Ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig, dywedodd nad oedd popeth a wnaeth yn gywir, ond ei fod wedi ceisio esbonio pam y daeth i'r casgliadau yna ar y pryd.
Mynnodd hefyd nad Llywodraeth y DU ddylai wneud penderfyniadau ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan pe bai pandemig arall yn y dyfodol.
Un mater oedd yn achos rhwystredigaeth amlwg iddo oedd ei berthynas a chyn-Brif Weinidog y DU, Boris Johnson.
Dywedodd ei bod yn "rhyfeddol" bod Mr Johnson wedi gwrthod cyfarfod â'r gwledydd datganoledig yn ystod yr argyfwng, gan honni ei fod yn "absennol i raddau helaeth" o drafodaethau.
Mae Mr Drakeford wedi cael ei feirniadu gan rai am beidio â chomisiynu ymchwiliad penodol i Gymru - ond mae'n dadlau y byddai cydweithio gydag ymchwiliad y DU yn sicrhau gwell dealltwriaeth o sut yn union yr oedd penderfyniadau yn cael eu gwneud yn y pedair gwlad.
Yn ystod ei ddyddiau olaf yn y swydd, dywedodd ei fod yn gobeithio bydd ei gyfnod wrth y llyw yn cael ei gofio fel un "radical".
Awgrymodd ei fod wedi ceisio gwneud "penderfyniadau sy'n addas i Gymru yn y dyfodol, nid edrych yn unig ar yr effaith mae'r penderfyniadau yn cael ar bobl ar hyn o bryd, ond y bobl sy'n mynd i ddod ar ôl ni hefyd".
Roedd gwrthod ffordd liniaru ar yr M4 o amgylch Casnewydd yn un o'r penderfyniadau hynny, meddai, gan ddweud fod "lot o bobl bwerus" wedi disgwyl y byddai'n cael sêl bendith ar ddechrau ei gyfnod fel prif weinidog.
Yn fwy diweddar, dywedodd fod syniadau radical ei lywodraeth wedi cynnwys cynigion i newid trefn y flwyddyn ysgol, a diwygio treth y cyngor.
Ychwanegodd nad oedd "wedi disgwyl" yr ymateb cryf i gyflwyno y terfyn cyflymder 20 milltir yr awr.
Fydd cyfnod Mark Drakeford fel Prif Weinidog yn dod i ben ddydd Mawrth, ac mae eisoes wedi cadarnhau na fydd yn sefyll i fod yn Aelod o Senedd Cymru yn yr etholiad nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth
- Cyhoeddwyd7 Chwefror
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2023